Gyda’r angen cynyddol am wybodaeth a sgiliau STEM yn yr economi leol, uchelgais Ůӟó yw addysgu gweithlu’r dyfodol mewn adeilad pwrpasol lle bydd myfyrwyr yn cael eu hamgylchynu gan arloesedd a thechnoleg sy’n adlewyrchiad o’r diwydiant. Bydd ein Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel (HiVE) newydd yng Nglynebwy yn agor ar hen safle ffatri Monwel yn 2025.
Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru, y Cymoedd Technoleg, ac addysg, rydym yn buddsoddi mewn Canolfan Beirianneg Uwch yn agos at gampws Parth Dysgu Blaenau Gwent, a fydd yn cynnig addysg peirianneg o ansawdd uchel er mwyn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn y cyfnod adeiladu, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau mewn pryd i groesawu myfyrwyr, yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau peirianneg yn Ůӟó o Hydref 2025.
Bydd y cyfleuster addysg carbon-niwtral a chwbl ddigidol, yn hyfforddi gweithlu’r dyfodol mewn disgyblaethau peirianneg uwch megis roboteg, deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, gweithgynhyrchu awtonomaidd, efelychiad a realiti estynedig. Bydd y cwricwlwm yn cael ei gynllunio a’i arwain gan arbenigwyr yn y diwydiant. Cyflwynir cyrsiau newydd ar lefelau 3, 4, 5 a 6, gan ddod â rhagoriaeth ac arbenigedd i’r ardal a rhoi hwb i’r economi leol.
Bydd HiVE, drwy ddod â diwydiant ac addysg at ei gilydd i faes peirianneg gwerth uchel, yn cynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu i bartneriaid yn y diwydiant. Bydd yn ganolfan ar gyfer rhaglenni allgymorth ysgolion a chyflogwyr, a fydd o fudd i’r gymuned ehangach.