女优阁

En
Male using digital technology, and 女优阁 Student.

Sgleiniwch eich sgiliau ar gyfer dyfodol yfory


2 Gorffennaf 2018

Sgleiniwch eich sgiliau ar gyfer dyfodol yfory

A oeddech chi’n gwybod? Rhagwelir twf o dros 1,000 mewn swyddi newydd yn y sector TGCh erbyn 2024 yn Ne-ddwyrain Cymru. Y Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi, 2017. Rhagwelir hefyd y bydd 44,500 o swyddi newydd yn cael eu hysbysebu yn y sector Iechyd a Gwaith Cymdeithasol erbyn 2024 (Llywodraeth Cymru, 2017) Erbyn 2022, mae Cymru angen 8,000 o beirianwyr (Dyfodol Gwaith, 2012-2022)
Mae hyn yn golygu, bod llawer o swyddi yn sectorau hyn heb eu llenwi, flwyddyn ar 么l blwyddyn, yn eich ardal leol.

A ydych chi’n frwd dros y gwyddorau? A ydych chi’n feistr ar y technolegau diweddaraf? A oes gennych ddiddordeb mewn meddygaeth neu’r gwasanaethau iechyd?
Mae yna fusnesau sy’n awyddus iawn i gael gweithwyr medrus…gweithwyr medrus, fel chi? Ydi, mae hyn yn wir. Yma yng Ngholeg Gwent, mae gennym nifer o gyrsiau yn y meysydd hyn i’ch helpu i gyflawni gyrfa yn yr hyn rydych yn ei garu.
Cliciwch ar y cwymplenni isod i ddarganfod mwy o wybodaeth am bob pwnc a sut i wneud cais.

A oeddech chi’n gwybod? Erbyn 2022, bydd 1 o bob 5 swydd yn gofyn am ymgeiswyr gyda sgiliau peirianneg (Ffynhonnell: Gyrfa Cymru). A oes gennych feddwl chwilfrydig ond rhesymegol? A ydych chi erioed wedi meddwl sut mae pethau’n gweithio a pham mae pethau’n methu? Neu a ydych chi’n edrych ar sut y gallwch wella systemau neu brosesau? Mae’n swnio fel petai peirianneg yn addas i chi. Mae peirianneg yn ymdrin 芒 phedair prif ddisgyblaeth: Peirianneg fecanyddol Mae peirianneg fecanyddol yn parhau i fod yn un o’r disgyblaethau mwyaf poblogaidd. Y car rydych yn teithio ynddo? Mae peirianwyr modurol wedi gweithio mewn t卯m i gyflawni hyn. A ydych chi erioed wedi ystyried gweithio mewn stiwdio recordio (ond nid y tu 么l i’r meic!)? Yna gall peirianneg sain fod yn addas i chi. Darllenwch am y mathau gwahanol o beirianneg fecanyddol sydd ar gael. Peirianneg drydanol Mae peirianneg drydanol wedi cynyddu yn ei phoblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, diolch i ddatblygiadau mewn technoleg. Y ffonau symudol rydych yn eu defnyddio pob dydd? Mae peirianwyr trydanol wedi helpu i’w creu. Mae nifer o beirianwyr trydanol yn gweithio ym meysydd awyrennol, TG ac ynni adnewyddadwy; mae yna nifer o swyddi y gall peiriannydd trydanol eu gwneud. Porwch drwyddynt Peirianneg gemegol Y papurau newydd rydych yn eu gweld mewn siopau? Mae peiriannydd cemegol yn helpu i greu’r papur. Beth am y diaroglydd rydych yn ei wisgo? Mae peirianwyr cemegol wedi profi’r cynnyrch mewn labordy. Mae peirianneg gemegol yn faes gweddol newydd, darllenwch fwy amdano yma. Peirianneg sifil Mae peirianneg sifil yn cyfeirio at y gwahanol strwythurau a phrosesau sy’n helpu i ddiogelu natur a’r amgylchedd. Er enghraifft, y bont rydych yn teithio arni i ddod yn 么l i Gymru? Peirianwyr sifil a wnaeth ei hadeiladu. Profi ansawdd d诺r llyn naturiol a gwirio iechyd y pysgod yn y d诺r hwnnw? Dyna swydd peiriannydd ecolegol. Mae peirianneg sifil yn faes eang, darllenwch am y mathau o swyddi sydd ar gael yma Fel rheol, mae myfyrwyr sydd 芒 diddordeb mewn mathemateg, gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yn dod yn beirianwyr. Helpwch i lunio bywyd pob dydd, porwch drwy ein hystod o mewn Peirianneg.

Technolegau Digidol. A oeddech chi’n gwybod? Gallwch ennill hyd at 拢55,000 fel Rheolwr Rhwydweithiau Cyfrifiadurol? (Ffynhonnell: Gyrfa Cymru Swnio’n dda? Pam na wnewch chi astudio’r cymwysterau perthnasol i’ch helpu i wneud cais am swyddi fel hyn? Mae technoleg ddigidol yn tyfu ac yn newid yn barhaus; mae cwmn茂au ar d芒n eisiau dod o hyd i ymgeiswyr fel chi, sy’n gyfforddus 芒 thechnoleg, er mwyn symud gyda’r tueddiadau diweddaraf, i’w helpu i gadw ar y blaen o ran technoleg. Nid yw Technolegau Digidol yn golygu Cyfrifiadureg neu TG yn unig, defnyddir y technolegau hyn ym mron pob swydd y dewch ar ei thraws; ffasiwn, manwerthu, elusen. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Ni yw’r UNIG goleg yng Nghymru i gynnig cyrsiau wedi eu dylunio gan gyflogwyr megis arweinwyr y sector TGCh Cisco ac Wolfberry, felly rydych yn dod i wybod YN UNION beth mae cwmn茂au ei eisiau gan eu gweithwyr, gan sicrhau eich bod gam yn nes at eich gyrfa. Yr hyn sy’n gwneud astudio Technolegau Digidol mor arbennig yma yng Ngholeg Gwent yw’r ffaith eich bod yn cael bod yn rhan o brosiectau busnes go iawn, gan ennill profiad amhrisiadwy yn y gweithle. Edrychwch ar Gwrs Technoleg Ddigidol Career Colleges

yma neu porwch drwy ein hystod o gyrsiau mewn Cyfrifiadureg a TG; mae yna rywbeth i bawb! Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio’n gynyddol, gan roi fwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd. Mae Iechyd a Gofal yn faes anferth o wasanaethau. Er enghraifft, mae iechyd meddwl yn bwnc amlwg ar hyn o bryd; felly beth am fod yn rhan o’r sgwrs honno? Neu, a ydych chi erioed wedi gofalu am aelod o’ch teulu neu ffrind ac awydd dechrau gyrfa mewn nyrsio?聽 Ni yw’r UNIG goleg yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau wedi eu dylunio gan gyflogwyr yn y diwydiant iechyd a gofal yng Nghymru? Felly gallwch fod yn hyderus eich bod yn dysgu YN UNION beth mae cwmn茂au ei eisiau gan eu gweithwyr. Bydd hynyn sicrhau eich bod gam yn nes at y swyddi di-rif y gallwch eu cyflawni o fewn y sector hwn. Yr hyn sy’n gwneud astudio Iechyd a Gofal mor arbennig yma yng Ngholeg Gwent yw’r ffaith eich bod yn cael gweithio mewn cartrefi gofal, ysbytai a meddygfeydd fel rhan o’ch dysgu. Edrychwch ar y cwrs Gofal Iechyd Career Colleges yma neu porwch drwy ein hystod o gyrsiau mewn Iechyd a Gofal; mae yna rywbeth i bawb!