女优阁

En

Achredu

Gwasanaeth achredu i gyflogwyr a sefydliadau bach

Training session

Gallwch gynnig cyrsiau achrededig heb orfod talu i fod yn ganolfan gofrestredig

Gall cyrsiau achrededig apelio at ddysgwyr, cyflogeion a gwirfoddolwyr gan fod cyflogwyr, colegau a phrifysgolion yn eu cydnabod yn aml, ond os yw’r gwaith papur neu gost y broses achredu yn eich digalonni gallwch gofrestru eich dysgwyr trwy Goleg Gwent am bris cystadleuol tu hwnt.

Mae’r amrywiaeth eang o unedau a chymwysterau rydym yn gynnig drwy Agored Cymru yn golygu y gallwch ddewis cyrsiau sy’n addas i’ch dysgwyr.

Ansawdd y gallwch ymddiried ynddo

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda llawer o sefydliadau bach a chanolig yng Nghymru a Lloegr er mwyn iddynt gynnig cymwysterau sy’n gweddu i ofynion eu cyflogeion, gwirfoddolwyr a dysgwyr.

Yn ein harolwg Estyn diweddaraf cawsom sg么r ‘da’ am ein hansawdd, gan brofi fod gennym hanes llwyddiannus.

Dyma ychydig o’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd:

  • Pen y Cwm School
  • Torfaen Inspire
  • ELI Training
  • Newport Flying Start (part of Newport Community Learning)
  • Aneurin Leisure Multiply
  • Blaenau Gwent Multiply
  • Newport Multiply
  • Torfaen and Monmouth Multiply

Beth arall allwn ni ei gynnig?

  • Cyfleoedd datblygu staff proffesiynol
  • Arsylwyr cymwys a/neu hyfforddiant arsylwi
  • Hyfforddiant a/neu staff sicrhau ansawdd mewnol cymwys
  • Sesiynau adeiladu portffolio

Darganfyddwch fwy

Kerry Budden
01495 333602
办别谤谤测.产耻诲诲别苍蔼肠辞濒别驳驳飞别苍迟.补肠.耻办听

Pam Hales
01495 333612
pam.hales@coleggwent.ac.uk

Rydym yn hapus i gwrdd 芒 chi i ganfod beth yw eich anghenion ac egluro costau ein disgwyliadau a gwasanaeth sicrhau ansawdd. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth ac arweiniad sydd ei angen arnoch pob cam o’r ffordd.

Mae gweithio mewn partneriaeth 芒 Choleg Gwent wedi ein galluogi i ddarparu’r cymwysterau galwedigaethol sydd eu hangen yn ein cymunedau gan gyfranogwyr a chyflogwyr lleol. 聽Rydym wedi adeiladu partneriaethau gweithio cryf ac effeithiol gyda’r t卯m addysg gymunedol i’n cynorthwyo ni i gyflawni ein nod i wella sgiliau dysgwyr a’u cefnogi nhw i mewn i gyflogaeth gynaliadwy. 聽Mae’r cymorth rydym yn ei gael heb ei ail. 聽Maent wrth law bob amser i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennym, o gofrestru unedau i safoni a sicrhau ein bod yn cofrestru’r dysgwyr mewn pryd. 聽Maent hyd yn oed wedi danfon ein tystysgrifau 芒 llaw!

Angela Shirlow
Prosiect Cyflogadwyedd Torfaen