Ůӟó

En
Financial Support

Eich Canllaw ar Gymorth Ariannol yn Ůӟó


25 Ionawr 2024

Rydyn ni yn y Coleg yn deall – gall rheoli eich cyllid tra’n jyglo astudiaethau wir fod yn heriol. Ond rydyn ni yn eich cornel – p’un a ydych yn astudio cwrs Galwedigaethol, Lefelau A neu Addysg Uwch. Cymerwch olwg ar yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael i roi hwb i’ch taith addysg.ÌýÌý

Cymorth Ariannol

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA):ÌýOs ydych yn 16-18 oed ac yn astudio yng Nghymru, gallech gael £40 bob pythefnos drwy’r LCA. Gall hyn helpu gyda threuliau dyddiol megis cael bwyd neu gludiant ayyb. Cysylltwch â’r ÌýGwasanaethau DysgwyrÌýneu ewch i wefanÌýÌýÌýam ragor o fanylion.
  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC): Os ydych chi’n 19 oed neu’n hÅ·n, mae’r GDLlC yn cynnig hyd at £1,500 y flwyddyn – perffaith ar gyfer gwerslyfrau neu’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs. Ewch i wefanÌýÌýam ragor o fanylion.
  • Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) 2023/24: Mae FCF yma i helpu gyda chostau megis pasys bws, gofal plant a mwy.Ìý
  • Cyllid ReAct: Os yw bywyd yn taflu heriau annisgwyl atoch megis diswyddiad, gall Cyllid ReAct ddarparu hyd at £2,500 ar gyfer hyfforddiant swydd.Ìý
  • Ymddiriedolaeth Goffa David Davies: Os oes gan eich teulu gysylltiad â gweithwyr glo De Cymru, mae’r ymddiriedolaeth hon yn cynnig cymorth o hyd at £300.ÌýÌý
  • Y Gronfa Cymorth Dewisol yng Nghymru (DAF): Y DAF yw eich rhaff achub yn ystod argyfyngau, gan gynnig cymorth cyflym pan fydd ei angen arnoch fwyaf.Ìý
  • Dyfarniad Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog: Oes angen cymorth gyda chludiant neu offer arnoch? Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn eich cornel.ÌýÌý

Addysg Uwch Llawn Amser

  • Benthyciadau ffioedd dysgu: Os ydych chi’n fyfyriwr Addysg Uwch am y tro cyntaf sy’n byw yng Nghymru, byddwch y gyffrous oherwydd y gallwch fenthyg hyd at £9250 i dalu am eich ffioedd dysgu.Ìý
  • Cymorth cynhaliaeth: Gallwch gael cymorth gyda chostau byw sy’n seiliedig ar incwm eich teulu.ÌýOs ydych wedi ymgymryd â chyrsiau Addysg Uwch o’r blaen, gallai hyn effeithio ar eich cymhwysedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i ac i’r adran Rheolau Astudio Blaenorol.Ìý
  • Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA): Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, efallai byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol. Mae’r grantiau hyn yma i helpu tuag at y costau ychwanegol angenrheidiol a allai fod gennych o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd. Llenwch y ffurflen DSA1 ar i ddechrau.

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, gwrandewch ar yr hyn sydd gan ein dysgwyr presennol i’w ddweud am ein hopsiynau cyllid.ÌýÌý

Sara Crockett and Thomas Morton

Dywedodd Sara Crockett, dysgwr Mynediad i AU: “Dewisais wneud y cwrs Mynediad oherwydd rydw i eisiau ymgeisio ar gyfer gradd gweithio gyda Phlant a Theuluoedd. Gwnaeth y ffaith bod y cwrs yn rhad ac am ddim wir fy ngwthio i gymryd y naid a chofrestru.” Ìý

Dywedodd Thomas Morton, ein dysgwr Gradd Sylfaen Gemau a Chelf: “Penderfynais astudio Celf a Dylunio Gemau yn Ůӟó oherwydd ei fod yn rhatach o lawer na phrifysgolion eraill.” Ìý

 

Addysg Rhan Amser

  • Benthyciad ffioedd: Gall unrhyw un yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd heb brawf modd o hyd at £2,625. I fod yn gymwys, bydd angen i chi fod yn astudio ar ddwyster o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai angen i fyfyriwr rhan-amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn. Mae astudio newydd ddod yn fwy fforddiadwy!Ìý
  • Cymorth Cynhaliaeth (Costau byw): Yn seiliedig ar faint o oriau yr ydych yn astudio ac incwm eich cartref, gallech dderbyn hyd at £5,111.25.Ìý
  • Cymorth i ddibynyddion: neu oedolion neu blant sy’n ddibynnol yn ariannol, gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu Rhieni (PLA) am gymorth ychwanegol.Ìý

Yn Ůӟó, rydym yma i sicrhau nad yw eich pryderon ariannol yn rhwystro rhag cyrraedd eich nodau academaidd. I gael cymorth pellach, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau CwsmeriaidÌýdrwy e-bost yn hello@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333777.ÌýÌý

Hefyd, gallwch ymweld â gwefan am fanylion am gymhwysedd a rhagor o wybodaeth.ÌýÌý