Ůӟó

En

Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Mynediad at Addysg Uwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Bydd gofyn i ddysgwyr sydd heb gymwysterau gael asesiadau rhifedd a llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn un delfrydol os ydych eisiau symud ymlaen i Addysg Uwch (AU) ac i broffesiwn gofal iechyd. Mae'n cynnig llwybr carlam (1 flwyddyn) ac yn rhoi'r cyfle ichi astudio ar gwrs gradd cysylltiedig â gofal iechyd.

Dyma'r cwrs i chi os...

... hoffech fynd i'r brifysgol, ond fe wnaethoch adael yr ysgol heb y cymwysterau sydd eu hangen arnoch.

... ydych eisiau paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol

... oes gennych ddiddordeb mawr mewn astudiaethau a gyrfaoedd cysylltiedig ag iechyd.

…os ydych chi’n dychwelyd i addysg neu mewn cyflogaeth ac yn dymuno uwchsgilio.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach sy'n gysylltiedig ag iechyd. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau megis rhai rheoli amser, gwaith tîm a chyfathrebu, ac yn datblygu sgiliau astudio ymchwiliol i'ch helpu gyda'ch astudiaethau yn y dyfodol.

Gallai amrywiaeth o unedau gynnwys y canlynol:

  • Cyfathrebu
  • Rhifedd
  • Cymdeithaseg
  • Cemeg
  • Astudiaethau Iechyd
  • Seicoleg
  • Anatomeg a Ffisioleg

Asesir hyn trwy Asesiadau Ffurfiol Mewnol. Byddwch yn cynnal ystod o feini prawf asesu trwy aseiniadau, arholiadau amser penodol mewnol, cyflwyniadau llafar, tasgau ymarferol a thraethawd estynedig. Byddwch yn cyflawni Diploma Agored Cymru Mynediad i AU – Gofal Iechyd, a fydd yn dal pwyntiau UCAS.

Sylwch: Gall pynciau cwrs newid yn ddibynnol ar y campws.

Wrth wneud cais i’r Brifysgol, cynghorir dysgwyr yn gryf i wirio gofynion mynediad unigol. Mae sylw arbennig i ofynion Mathemateg a Saesneg yn hanfodol oherwydd gall fod yn wahanol rhwng sefydliadau AU.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Bydd gofyn i ddysgwyr sydd heb gymwysterau gael asesiadau rhifedd a llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf. Mae hwn yn gwrs dwys sy'n gofyn am lefel uchel o ymrwymiad ac ymroddiad. Bydd disgwyl i ymgeiswyr fynychu pob sesiwn ac ymgymryd ag astudio annibynnol sylweddol.

Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn rhinweddau hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae'n rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn ennill y cymhwyster.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Addysg Uwch mewn meysydd megis nyrsio, parafeddygaeth, hylenydd deintyddol, dietegydd, bydwreigiaeth a therapi lleferydd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) Lefel 3?

CFAC0003AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr