Byddwn bob amser yn rhoi ein myfyrwyr yn gyntaf – ac mae hynny’n golygu ein bod yn rhoi pa bynnag gymorth sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y byddwch ei angen.
Mae ein rhwydwaith cymorth yn cwmpasu popeth o help cwrs i’ch lles personol. P’un a oes gennych anghenion dysgu ychwanegol, angen rhywfaint o help i ymgartrefu yn y coleg, neu hyd yn oed os ydych am siarad â rhywun am eich camau nesaf – mae help wrth law bob amser.
Hybiau Addysg Uwch (Hybiau AU)
Nid yn unig y byddwch yn cael mynediad at ein gwasanaethau cymorth cynhwysfawr, mae gennym hefyd gyfleusterau gwych i gefnogi eich astudiaethau. Ar rai campysau mae ardal ddynodedig yn arbennig i’n dysgwyr Addysg Uwch sydd â; cyfrifiaduron, mannau gwaith grŵp a soffas ar gyfer astudio’n dawel neu ymlacio. Beth am ymwel a’n hybiau AU ar ein taith 360 arlein neu ymweld nhw drwy dod i un o’n digwyddiadau agored?