女优阁

En

Cymorth Dysgu Addysg Uwch

Eich cefnogi chi

Mae gennym ni ddigonedd o wasanaethau cymorth ar gael, p鈥檜n a oes angen cymorth arnoch gyda phrawfddarllen eich gwaith, cymorth hygyrchedd neu sesiynau ychwanegol i gynorthwyo gydag aseiniadau, rydym yma i helpu!

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Wedi i chi gael cadarnhad gan Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr, os ydych wedi cofrestru anhawster dysgu a/neu anabledd, gallwn ddarparu llawer o gefnogaeth.

Gallai hyn gynnwys:

  • Cymorth yn y dosbarth gan Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol
  • Sesiynau ychwanegol i helpu gydag aseiniadau a gwaith cwrs
  • Cymorth gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (i fyfyrwyr byddar)
  • Cymorth Dyslecsia
  • Defnyddio meddalwedd hygyrchedd gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol
  • Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau

Os oes angen cymorth arnoch, siaradwch 芒鈥檆h Tiwtor Personol, cysylltwch 芒 Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol y campws (ALNCo) neu鈥檙 swyddog Cynnydd Addysg Uwch.

Tiwtoriaid Personol

Fel dysgwr addysg uwch, cewch gymorth unigol gan diwtor personol o ddechrau eich taith yn 女优阁. Cewch diwtorialau rheolaidd a bydd eich tiwtor yn monitor eich cynnydd yn agos ac yn eich cefnogi drwy eich astudiaethau yn y coleg. Bydd eich tiwtor yn eich cynorthwyo i deimlo鈥檔 gartrefol yn y coleg, eich arwain drwy eich cwrs, cynnig cymorth drwy unrhyw gyfnodau anodd a dathlu llwyddiannau.

Hyfforddwyr Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol Addysg Uwch

Ar bob campws mae gennym Hyfforddwyr Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol Addysg Uwch a fydd yn eich cefnogi gydag arweiniad academaidd a bugeiliol drwy gydol eich rhaglen astudio. Mae Hyfforddwyr Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol Addysg Uwch yn ymroddedig i鈥檆h cefnogi chi drwy unrhyw anhawster, sy鈥檔 cynnwys eich cyfeirio at ein timau arbenigol perthnasol. Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:

  • Sgiliau astudio
  • Cefnogaeth academaidd
  • Problemau gyda phresenoldeb
  • Cyngor ariannol
  • Ymdopi 芒 straen a gorbryder