女优阁

En

CBAC Iaith a Llenyddiaeth Saesneg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a gradd B mewn Saesneg Iaith neu Lenyddiaeth.

Yn gryno

Gyda chyfuniad bywiog o waith ymchwil ac ysgrifenedig ymarferol, mae'r gwaith hwn yn ymdrin ag ystod o astudiaethau Saesneg.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych wrth eich bodd yn darllen ac ysgrifennu.
... Ydych yn mwynhau dadansoddi a thrafod llenyddiaeth.
... Hoffwch ddealltwriaeth ddyfnach o'r byd ysgrifennu.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lefel U yn bwnc dwys ond pleserus, sy'n caniatáu lle i drafod a datblygu eich syniadau eich hun. Bydd y pwnc hwn yn apelio atoch chi os ydych yn mwynhau darllen llyfrau a'u trafod gydag eraill, ysgrifennu bob mathau a dadansoddi testunau ffuglen a ffeithiol yn fanwl.

Byddwch yn astudio dwy uned ar Lefel UG a thair uned ar Lefel U. Trwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu fframweithiau astudiaeth iaith a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarllen yn ddadansoddol-fanwl. Byddwch yn dysgu i ddadansoddi a chymharu amrywiaeth o destunau ysgrifenedig ac ar lafar ac ysgrifennu rhai darnau creadigol.

Ar Lefel UG, byddwch yn astudio antholeg o farddoniaeth cyn 1914, Down and Out in Paris and London gan George Orwell (testun anllenyddol) ac Amadeus (drama) Peter Shaffer. Ar Lefel A, byddwch yn astudio Much Ado About Nothing Shakespeare (drama), The Handmaid's Tale (rhyddiaith) gan Margaret Atwood a byddwch yn cynhyrchu ffolder gwaith cwrs o 2,500-3,500 o eiriau, wedi'i ysbrydoli gan genre llenyddol dewisol - llenyddiaeth Gothig.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Bydd gwaith cartref rheolaidd, gwaith dosbarth, marciau profion a graddau arholiadau ffug yn eich galluogi chi i fesur eich cynnydd. Ar Lefel UG, cewch eich asesu'n ffurfiol drwy ddau arholiad yn yr haf a thrwy waith cwrs a dau arholiad yn yr haf ar Lefel U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lefel UG
  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Gradd B mewn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg.

Bydd angen i chi allu cymell eich hun, gweithio'n galed, dangos brwdfrydedd tuag at lenyddiaeth a mwynhau darllen ac ysgrifennu yn eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae Saesneg yn gymhwyster uchel ei barch a all fod yn fan cychwyn i nifer o yrfaoedd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol i unrhyw un sy'n bwriadu mynd i'r maes Addysgu, y Gyfraith, Newyddiaduraeth, Rheolaeth o bob math a Gwyddor Gymdeithasol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Iaith a Llenyddiaeth Saesneg UG Lefel 3?

PFAS0116A1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr