女优阁

En

CBAC Cymdeithaseg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn darparu cyflwyniad ac archwiliad i astudio cymdeithaseg

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn chwilfrydig am ddiwylliant
... Ydych eisiau gwell dealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn gweithio
... Ydych yn gallu cymell eich hun ac yn gweithio'n galed

Beth fyddaf yn ei wneud?

Lefel UG

Uned 1: Mae Caffael Diwylliant yn darparu cyflwyniad craidd i gymdeithaseg. Byddwch yn dysgu diffiniad 'diwylliant' a sut caiff ei drosglwyddo. Rydym hefyd yn astudio'r opsiwn teuluoedd a diwylliant. Mae hwn yn archwilio pynciau megis priodasau, ysgariad ac amrywiaeth teuluol.

Uned 2: Deall cymdeithas a'r dulliau mae ymholi cymdeithasegol yn ystyried dulliau ymchwil cymdeithasegol, gan edrych ar arbrofion, arolygon ac arsylwadau. Yna rydym yn astudio'r opsiwn cymdeithaseg addysg. Mae hwn yn cynnwys pynciau megis r么l addysg ac effaith dosbarthiadau cymdeithasol, ethnigrwydd a rhywedd ar gyrhaeddiad addysgol.

Lefel U

Uned 3: Pwer a rheolaeth. Yn yr uned hon rydym yn astudio'r opsiwn trosedd a gwyriad, sy'n cynnwys patrymau o ddosbarthiad cymdeithasol, diffiniadau ac ystadegau swyddogol y llywodraeth.

Uned 4: Anghydraddoldeb cymdeithasol a dulliau cymhwysol o ymholiadau cymdeithasegol. Mae'r uned hon yn gofyn i chi ddylunio, cyfiawnhau a gwerthuso darn o ymchwil cymdeithasegol. Byddwch hefyd yn astudio anghydraddoldeb cymdeithasol, yn cynnwys gwahaniaethiad a haeniad cymdeithasol.

Nid oes gwaith cwrs ar y cwrs hwn. Mae dull asesu'r Lefel UG ac U yn cynnwys dau arholiad ysgrifenedig a sefir ar ddiwedd y flwyddyn. Yn gyffredinol mae'r arholiadau'n seiliedig ar draethodau. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Cymdeithaseg Lefel UG
  • Cymdeithaseg Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau

Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal 芒 pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gellir astudio Cymdeithaseg fel cymhwyster UG 'annibynnol' neu ar 么l cwblhau'r Lefel UG yn llwyddiannus, cewch fynd ymlaen i Lefel U.

Addysg Uwch neu gyrsiau/gyrfaoedd sy'n ymwneud 芒 phobl, megis yr heddlu, newyddiaduraeth, rheolaeth, y gyfraith, addysgu a gwaith cymdeithasol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Cymdeithaseg UG Lefel 3?

PFAS0153A1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr