女优阁

En

CBAC Mathemateg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd B mewn Mathemateg Haen Uwch. Ar gyfer Mathemateg Bellach, mae angen gradd A

Yn gryno

Mae hwn yn gwrs trylwyr a thechnegol mewn Mathemateg

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn mwynhau gwaith sydd â natur dechnegol
... Ydych eisiau dilyn gyrfa mewn mathemateg
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn gallu cymell eich hun

Beth fyddaf yn ei wneud?

Os ydych yn ymgymryd â Mathemateg Lefel UG ac U, byddwch yn dilyn maes llafur CBAC. I'r rheiny sydd eisiau ennill cymhwyster UG, byddwch yn astudio tri modiwl mewn blwyddyn. Mae angen cwblhau tri modiwl arall ym mlwyddyn 2 i gyflawni Lefel A. Caiff yr holl fodiwlau eu hasesu drwy arholiadau.

Mae mathemateg yn gasgliad o bynciau sydd ag agwedd gyffredin at ddatrys problemau a modelu. Bydd y rhan fwyaf ohonoch eisoes wedi bodloni'r syniadau sylfaenol sydd ynghlwm â rhifyddeg, algebra, geometreg, trigonometreg a thebygolrwydd. Mae'r rhain i gyd yn bynciau unigol ond cânt eu cyfuno'n gyson i fodelu sefyllfaoedd bob dydd ac i ddatrys problemau.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyrsiau Lefel U eraill, mae gan Fathemateg wahanol opsiynau:

  • Pur gyda mecaneg - caiff y cwrs hwn ei gyfuno fwyaf aml gydag un neu fwy o'r Lefelau U mewn gwyddor ffisegol.
  • Pur gydag ystadegau - gellir cyfuno'r opsiwn hwn gydag ystod eang o gyrsiau ar draws y campws, ond mae'n cyd-fynd â phynciau megis bioleg, seicoleg a daearyddiaeth yn arbennig o dda.
  • Pur - y cwrs hwn yw'r mwyaf damcaniaethol, heb ystadegau na mecaneg.

Mathemateg Ddwbl (cwrs dwy flynedd)

Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn Mathemateg, dylech ystyried Mathemateg Ddwbl. Mae'r cwrs hwn yn eich caniatáu i astudio mathemateg bur, mecaneg ac ystadegau i safon uwch.

Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Mathemateg Lefel UG
  • Mathemateg Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau

Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Gradd B mewn Mathemateg Haen Uwch. Ar gyfer Mathemateg Bellach, mae angen Gradd A

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r cyrsiau hyn yn darparu paratoad delfrydol ar gyfer mathemateg, ffiseg, peirianneg, gwyddoniaeth ac amrywiaeth eang o raglenni addysg uwch eraill.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Mathemateg UG Lefel 3?

PFAS0159A1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr