Ůӟó

En

City & Guilds Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£200.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
21 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
15 wythnos

Yn gryno

Yn dilyn ymlaen o gymhwyster Lefel 1, mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau wahanol gymhwyser er mwyn datblygu eich sgiliau Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur yn bellach eto.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un sy’n dilyn gyrfa neu’n diddori’n frwd mewn Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur.

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau wahanol gymhwyster.

Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Modelu Parametrig

Yn cynnwys:

  • Braslunio cymhleth a chyfyngiadau 2D er mwyn creu nodweddion
  • Creu a golygu nodweddion gwaith a defnyddio gorchmynion nodweddion cymhleth
  • Creu ac addasu rhannau a chydosodiadau ar sail tablau
  • Defnyddio mudiant a chyfyngiadau cydosod gyredig
  • Ychwanegu gwybodaeth ychwanegol i gynllun dyluniad er mwyn cynorthwyo’r dehongliad o fwriad y cynllun
  • Creu arddangosfeydd rhannau a chydosodiadau o ansawdd cyflwyniad

Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur

Mae’r cymhwyser hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o gynllunio 2D a’i egwyddorion o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchedd, gan gynnwys:

  • TG, caledwedd Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur a systemau gweithredu sylfaenol cysylltiedig
  • Elfennau allweddol meddalwedd gysylltiedig â chynllunio 2D
  • Technegau rheoli ffeiliau
  • Gorchmynion gweld a sefydlu’r gofod dylunio
  • Gorchmynion dylunio sylfaenol er mwyn cynhyrchu dyluniadau
  • Y system gydlynu er mwyn creu darluniau cywir
  • Trefnau ar gyfer llinellu, testun a dimensiynu syml
  • Trefnau sylfaenol ar gyfer golygu dyluniadau

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, cewch symud ymlaen un ai i gwrs Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Modelu Parametrig Lefel 3 City & Guilds neu Ddylunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol ond bydd ennill cymhwyster Dyfarniad City & Guilds Lefel 1 mewn Modelu Parametrig CAD yn fan cychwyn da.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn yn cynnig opsiwn dysgu agored hefyd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Lefel 2?

NPAW0076JA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 21 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr