VTCT Gwobr mewn Amlder Radio am Estheteg Lefel 4
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£441.00
Noder, mae鈥檙 holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
04 Chwefror 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:00
Hyd
8 wythnos
Yn gryno
Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 4 mewn Amledd Radio yn gymhwyster therapi uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 3 sydd yn 18 oed neu'n h欧n gyda'r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. Prif bwrpas y cymhwyster yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau amledd radio.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
- y rheini sydd am gyflwyno triniaethau anfeddygol i'w busnes
- y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad at Therap茂au Esthetig
- y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n h欧n.
Cynnwys y cwrs
Amledd Radio yw un o'r technolegau anfewnwthiol gwrth-heneiddio mwyaf diogel yn y diwydiant. Technoleg brofedig sydd wedi bodoli am lawer o flynyddoedd yw Amledd Radio, ac mae'n addas ar gyfer pob math groen a chyflwr corfforol. Mae amledd radio yn teimlo'n debyg i dyliniad cynnes yn ystod triniaeth ac mae'n gweithio i annog cynhyrchu colagen a lleihau llacrwydd drwy dynhau eich croen, sydd yn lleihau braster ac yn gwella ffyrfder.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Mesurau Iechyd a Diogelwch i'w hystyried
- Cynllunio Triniaethau ar gyfer yr wyneb a'r corff
- Gwybodaeth ynghylch offer
- Cymhwyso triniaeth mewn modd ymarferol
- Cyngor cyn ac ar 么l triniaeth
- Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
Cynhelir asesiadau drwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Amledd Radio.
Ar 么l cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
- Dyfarniad Lefel 5 mewn Micro-lafnu Amledd Radio
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen
Gofynion Mynediad
Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n h欧n.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.
Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandal. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPAW0629AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Chwefror 2025
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr