BTEC Diploma Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf pedwar TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cael profiad galwedigaethol mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrau drwy gyflwyniadau, ymweliadau, gweithdai, mentora a phrofiad gwaith.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Rydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn gwasanaethau mewn lifrau
...Rydych eisiau cyfuniad o ddysgu rhagweithiol, ymarferol a theori
...Rydych yn breuddwydio am weithio i’r gwasanaeth tân, yr heddlu, y fyddin neu’r llynges.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs yn cynnwys astudio sgiliau gwasanaeth cyhoeddus, cynllunio gyrfa a gwella iechyd a ffitrwydd er mwyn cael mynediad i'r gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel cymorth cyntaf, gweithgareddau awyr agored, academïau pêl-droed, pêl-rwyd neu rygbi.
Nid oes arholiad ysgrifenedig terfynol gan y byddwch yn cyflawni eich cymhwyster trwy asesiad parhaus. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni aseiniadau, gwaith prosiect ac astudiaethau achos lle rydych chi'n casglu tystiolaeth o'ch cymhwysedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill cymwysterau mewn:
- Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2
- Gweithgareddau sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymuno â'r cwrs, bydd angen o leiaf bedwar TGAU Gradd D neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â dangos parch at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu'n barhaus ac mae disgwyliad y byddwch yn parhau â'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu gyflogaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai neu'r diwydiant awyr agored.
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgwylir i chi brynu cit awyr agored a chwaraeon hyd at werth £95, ynghyd â 40 ar gyfer Cofrestru D o E.
Ar gampws Crosskeys mae'r costau fel a ganlyn:
£ 80 am git Ysgol
£ 45 ar gyfer gweithgareddau awyr agored
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBD0006AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr