NCFE Diploma mewn Teithio a Thwristiaeth Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Teithio a Thwristiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs yma yn rhoi cyflwyniad uwch i chi i’r sectorau teithio, twristiaeth a lletygarwch.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb yn y byd teithio a thwristiaeth
... Rydych am fynd ymlaen i gyflogaeth
... Oes gennych ddiddordeb hyfforddi ymhellach
Ìý
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol y diwydiant, ynghyd â set fwy arbenigol o sgiliau. Unedau’r cwrs yw:
• Teithio a thwristiaeth ledled y byd
• Teithio a thwristiaeth y DU
• Cynrychiolwyr cyrchfannau
• Atyniadau ymwelwyr
• Gweithrediadau teithiau
• Twristiaeth gweithgareddau
• Cynllunio digwyddiad
Wrth gwblhau’r cwrs, byddwch yn cael y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Diploma mewnÌýTeithio a Thwristiaeth
- CymwysterauÌýcefnogi priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad at y cwrs, bydd angen isafswm o 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys naill ai cymhwyster TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Mae’n rhaid i chi ddangos brwdfrydedd am y diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd angen i chi feddu ar hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
NCFE Lefel 3 Diploma Estynedig Teithio a Thwristiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i ddysgwyr llawn amser brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £90 a £140, yn ogystal â thalu am deithiau ac ymweliadau a fydd yn costio tua £100.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBD0068AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr