City & Guilds Tystysgrif mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
2
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024
Hyd
2 flynedd
Yn gryno
Os ydych yn gweithio mewn manwerthu, gwerthu neu unrhyw swydd ble rydych yn delio'n uniongyrchol 芒 chwsmeriaid, dyma'r cwrs i chi! Bydd yn rhoi'r cyfle i chi ennill y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn gwasanaeth cwsmer.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n gweithio mewn amgylchedd sy'n wynebu cwsmeriaid ac yn delio ag amrywiaeth o bobl mewn unrhyw ddiwydiant.
Cynnwys y cwrs
Nod y cwrs yw adeiladu ar arfer dda mewn gwasanaeth cwsmer a'i chydnabod o fewn unrhyw ddiwydiant, gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o gyfathrebu a darparu gwasanaeth yn effeithiol. Byddwch yn ymdrin 芒 phynciau megis:
- Adnabod cwsmeriaid, eu priodoleddau a disgwyliadau
- Bod yn ymwybodol o wasanaethau a chynnyrch eich sefydliad
- Arddangos sut i ddilyn arferion a gweithdrefnau eich sefydliad
- Deall sut i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith a ddefnyddir mewn gwasanaeth cwsmer a dilyn rheolau o fewn eich gwaith
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
COCE1344AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr