女优阁

En

Gradd Atodol BSc (Anrh) - Nyrsio Milfeddygol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Mae'r Radd BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol (Atodol) ar gyfer ymgeiswyr Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yng Ngradd Sylfaen Nyrsio Milfeddygol yn 女优阁, neu un o raddau FdSc mewn Nyrsio Milfeddygol eraill sydd ag achrediad RCVS.

Yn gryno

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a enillir trwy’r cwrs hwn yn ddymunol yn y Proffesiwn Milfeddygol ac amrywiaeth eang o ddiwydiannau amaethyddol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi’n dymuno uwchraddio eich Gradd Sylfaen i Radd Anrhydedd lawn mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol
... Ydych chi’n dymuno anelu at swydd raddedig yn eich dewis faes
...  Ydych chi’n awyddus i gyfuno eich astudio gyda phrofiad ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd hon yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Bydd ein BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn datblygu eich gallu i ymgysylltu ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, gan eich galluogi i wneud cyfraniadau blaengar at y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol.

Bydd y cwrs 120 credyd yn cynnwys:

  • Modiwl ymchwil o dan arweiniad prifysgol
  • Swoleg fertebraidd
  • Moeseg a lles anifeiliaid
  • Gwelliannau mewn iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
  • Maeth clinigol datblygedig.

Mae’r darlithwyr yn cynnwys Bethan Lewis, Kate Beavan RVN, Rhiannon Stundon RVN, Michelle Cooper, Jess Ingleson, Clare Clift RVN.

Bydd asesu yn amrywiol a pharhaol trwy gydol blwyddyn y cwrs, i gynnwys trafodaethau a beirniadaethau grwp, prosiectau ymchwil, gwaith portffolio, cyflwyniadau, asesu ac adroddiadau ymarferol.

Byddwch yn ennill BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol yng Ngholeg Gwent, neu mae angen un o’r RCVS achrededig FdSc Nyrsio Milfeddygol.

Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros un/dau ddiwrnod yr wythnos a bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwil annibynnol. Bydd rhai sesiynau dysgu yn cael eu cynnal ar Gampws Glyntâf Prifysgol De Cymru, Pontypridd, er y bydd y mwyafrif yn cael eu cyflwyno ar gampws Brynbuga 女优阁.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a Diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Pe byddech yn dymuno parhau â’ch Addysg uwch gallech symud ymlaen at Radd Meistr berthynol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn cael eich dysgu trwy ddarlithiau, tiwtorialau a gwaith ymarferol. Gall rhywfaint o’r cyflwyno gael ei ddarparu gan siaradwyr gwadd. Mae astudio hunangyfeiriedig yn chwarae rhan ym mhob modiwl ac mae’n cael ei gefnogi gan amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol. Mae cyfran yr astudio hunangyfeiriedig yn dibynnu ar y modiwl a gall amrywio o 50% i 80%. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan Goleg Gwent, ar ein Campws ym Mrynbuga a Phrifysgol De Cymru, Trefforest a bydd cyflwyno gwersi yn cael ei rannu rhwng Brynbuga a Threfforest, gofynnwch am fanylion pan ymwelwch ag un o’n digwyddiadau agored.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Atodol BSc (Anrh) - Nyrsio Milfeddygol?

UFDB0002AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr