EAL Diploma Atodol mewn Technolegau Peirianneg (Saernio a Weldio) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Cymhwyster Peirianneg/Weldio Lefel 2 addas gyda Gradd A*-C mewn Mathemateg TGAU.
Yn gryno
Mae'r cwrs yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol ar gyfer amrywiaeth o swyddi o fewn saernïo a weldio. Mae wedi ei strwythuro o amgylch fframwaith y brentisiaeth lefel 3 mewn Peirianneg.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am Weldio a Saernïo
... Rydych yn chwilio am brentisiaeth mewn Weldio a Saernïo
... Mae gennych ddealltwriaeth sylfaenol o Weldio a Saernïo ac eisiau ei ddatblygu at lefel uwch
... Hoffech ddechrau gyrfa mewn weldio a saernïo.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Ar gyfer y Diploma hwn, byddwch yn astudio pum uned:
- Iechyd a Diogelwch
- Egwyddorion Weldio a Saernïo
- Weldio arc metel â llaw (MMA)
- Weldio arc metel â llaw (MMA)
- Proses weldio nwy anadweithiol Twgsten (TIG)
Yn ogystal, byddwch yn ymdrin â 2 uned NVQ ymarferol.
Asesir y cwrs drwy gyfuniad o ddulliau yn cynnwys:
- Gweithgareddau gweithdai ymarferol
- Profion ysgrifenedig byr
- Arholiadau amlddewis ar-lein
Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, ac yn cael cyfle i ail-sefyll TGAU Mathemateg/Saesneg lle fo'n briodol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:
- Cymhwyster Peirianneg/Weldio Lefel 2 addas gyda Gradd A*-C mewn Mathemateg TGAU.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm. Dylech hefyd fod yn awyddus iawn i weithio yn y diwydiant peirianneg, cydymffurfio ag ethos y coleg a bod yn barod i wella eich lefel o bynciau academaidd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i arwain dysgwyr tuag at brentisiaeth mewn saernïo a weldio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, sy'n costio oddeutu £40. Byddwch hefyd angen eich offer ysgrifennu a ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0287AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr