AAT Diploma mewn Cyfrifyddu (Cymhwyster Llawn) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
neu - Gyfweliad â’r tiwtor os nad yw’r uchod ar gael
Yn gryno
Mae’r cwrs yma yn olynu AAT Tystysgrif mewn Cyfrifeg Lefel 2 bydd yn eich galluogi i gael sgiliau pellach i fynd ymlaen yn y byd cyfrifeg.
Dyma'r cwrs i chi os...
… Ydych wedi cwblhau cwrs AAT Tystysgrif mewn Cyfrifeg Lefel 2
… Ydych eisiau gwella eich sgiliau a gwybodaeth am y maes cyfrifeg
… Ydych eisiau gweithio yn y byd cyfrifeg.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cynigir y cwrs llawn amser proffesiynol Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (AAT) mewn nifer cyfyngedig o leoedd ar draws de Cymru.
Bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod o dasgau cyfrifeg cymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifeg cost a pharatoi adroddiadau ac enillion. Mae themâu allweddol drwy gydol y cymhwyster yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:
• Ymwybyddiaeth Busnes
• Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol
• Technegau Cyfrifeg Rheoli
• Prosesau Treth ar gyfer Busnesau
Mae'r ddwy uned yn cael eu hasesu’n unigol drwy asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.Â
Byddwch yn cael y cymwyster canlynol:
- Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg
- Gweithgareddau Sgiliau
- Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set o sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs yma, bydd rhaid i chi gael eich cyflogi yn y diwydiant a gallu dangos sgiliau perthnasol (yn unol â rhestr wirio AAT ar gyfer mynediad uniongyrchol) neu gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cyfrifeg a Busnes.
Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus a byddwch yn parhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol, y gallwch ei astudio’n llawn amser neu’n rhan amser yn Ůӟó.
- Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, gall myfyrwyr ymgymryd yn llwyddiannus â rôl ym maes cyllid.
Gallai sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:
•Cynorthwyydd Cyfrifon
•Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Chostau
•Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
•Archwilydd dan Hyfforddiant
•Rheolwr Credyd
•Cynorthwyydd Cyllid
•Swyddog Cyllid
•Goruchwyliwr Cyflogres
•Uwch Geidwad Cyfrifon
•Cynorthwyydd Treth.
Gwybodaeth Ychwanegol
I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru â’r AAT fel myfyriwr. Bydd angen i chi gofrestru gydag AAT am gost o tua £230. Bydd angen i chi gofrestru gyda'r coleg hefyd.
Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £150.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0066AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr