VTCT Diploma mewn Therapïau Cyflenwol Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lefel dda o lythrennedd a rhifedd.
O leiaf 4 gradd TGAU yn D ac uwch,Ìýfodd bynnag, bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol a brwdfrydig, yn gyfeillgar gyda sgiliau rhyngbersonol da, yn dangos sgiliau meddwl beirniadol, yn rheolwr amser da ac yn gallu dangos presenoldeb a phrydlondeb rhagorol.
Yn gryno
Byddwch yn astudio amrywiaeth o dechnegau ar y cwrs hwn mewn ymarferion Tylino, Adweitheg ac Aromatherapi.
Ìý
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi’n caru popeth sy’n ymwneud â harddwch
... Oes gennych chi ddiddordeb arbennig mewn therapïau cyflenwol a chyfannol
... Ydych chi’n weithgar ac yn gyfeillgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu pynciau fel:
- Tylino yw’r enw a roddir ar drin meinweoedd meddal i gynhyrchu effaith ar systemau’r corff. Mae amrywiaeth o dechnegau ac mae'r cwrs hwn yn cyflwyno'r dull cyfannol o therapi tylino.
- Mae adweitheg yn gweithio ar adweithiau allweddol a nodwyd ar y traed i gydbwyso llif egni’r corff i greu cydbwysedd ym mhob un o’r systemau. Mae'r cwrs hwn yn darparu triniaeth i'r traed a’r dwylo.
- Aromatherapi yw’r enw a roddir ar y broses o gyfuno olewau hanfodol ac olewau cludo i gymysgedd unigryw er mwyn cysoni’r meddwl a’r corff. Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno technegau blendio, tylino aromatherapi a defnyddio olew.
Bydd Anatomeg, Ffisioleg a Phatholegau hefyd yn cael eu hastudio fel sail i'r therapïau ymarferol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn dysgu sut i sefydlu neu redeg busnes newydd mewn therapïau cyflenwol.
Mae rhai ymarferwyr yn gweithio mewn spas, salonau harddwch, clinigau ceiropracteg, practis ffisiotherapi, hosbisau a'r sector gofal. Mae llawer yn gweithio'n breifat yn eu busnesau eu hunain.
Byddwch yn darparu sesiynau clinig ac yn gweithio ar gleientiaid bob wythnos. Mae'r clinig yn eich galluogi i ymarfer gyda goruchwyliwr mewn amgylchedd masnachol.
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy:
- Sesiynau theori
- Sesiynau dysgu ymarferol
- Sesiynau clinig
- Gwaith grwp
- Gweithgareddau cyfoethogi (gan gynnwys siaradwyr gwadd a theithiau)
- Ymchwil
- Astudiaethau achos
Byddwch yn cael eich asesu drwy arsylwadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, dau arholiad amlddewis, astudiaethau achos a lleiafswm oriau cofnodi gwaith. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Diploma VTCT Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwo
- Tystysgrif VTCT Lefel 3 mewn Tylino Pen Indiaidd
- Tystysgrif VTCT Lefel 3 mewn Therapi Cerrig
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydian
Gallwch symud ymlaen i HNC/D mewn Therapïau Cyflenwol (Arfer Gofal Iechyd).
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar lefel dda o lythrennedd a rhifedd ac isafswm o 4 cymhwyster TGAU gradd D ac uwch.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol ac yn frwdrydig, yn gyfeillgar gyda sgiliau rhyngbersonol da, arddangos sgiliau meddwl yn feirniadol, yn rheolwr amser da ac yn gallu arddangos presenoldeb a phrydlondeb ardderchog.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallwch symud ymlaen i'r HNC / D mewn Therapïau Cyflenwol (Ymarfer Gofal Iechyd).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael i ddysgwyr 19+ mlwydd oed.
- Esgidiau du, fflat, cyfforddus (nid cynfas)
- Mae’n rhaid i wallt gael ei glymu i ffwrdd oddi wrth y wyneb yn ystod pob sesiwn clinig
- Dim gemwaith a dim tyllau’r corff (heblaw modrwy briodas)
- Ni chaniateir estyniadau ewinedd na lliw ewinedd. Ewinedd glân, byr, wedi’u ffeilio
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy.ÌýY gost am hyn yw tua £191,Ìýyn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Ůӟó y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.Ìý Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45,Ìýyn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Bydd disgwyl i chi ymarfer oddi ar y safle ac argymhellir eich bod yn prynu soffa tylino y gellir ei addasu, cludadwy gyda thwll wyneb
Bydd hefyd angen gwiriad DBS cyfredol arnoch, a fydd yn costi £50.00. Trefnir hwn ar eich cyfer trwy'r coleg.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Mae gwybodaeth am grantiau a chymorth i gefnogi prynu cit a gwisg ysgol ac ati ar gael gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ac ar wefan y coleg.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0073AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr