女优阁

En

City & Guilds Diploma mewn Goginio Proffesiynol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu鈥檔 uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf;聽A Diploma Lefel 1 priodol mewn Coginio Proffesiynol neu brofiad o weithio mewn cegin broffesiynol i gynnwys naill ai gradd TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.

Yn gryno

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych eisiau gwella eich gwybodaeth am goginio proffesiynol
... Rydych eisiau gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol
... Rydych eisiau dechrau gyrfa fel pen-cogydd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddewis gyrfa heriol, ond hynod gwerth chweil, sy'n tyfu'n gyflym.

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol. Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i'r cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 3.

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych eisiau gweithio fel pen-cogydd proffesiynol.聽 Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau gwasanaeth bwyty a choginio o safon uchel.

Byddwch yn astudio:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Technegau coginio modern
  • Stociau, cawliau a sawsiau
  • Ffrwythau a llysiau
  • Cigoedd ac offal
  • Dofednod
  • Pysgod a physgod cregyn
  • Reis, pasta, grawn a phrydau聽wyau
  • Melysfwyd a phwdinau poeth ac聽oer a chynnyrch wedi eu pobi
  • Gwasanaeth bwyty - gwasanaeth聽bwyd, diod a bar, gan gynnwys sgiliau flamb茅 a gwneud coctels
  • Sgilau barista coffi

Byddwch yn dysgu drwy:

  • Sesiynau 'byw' ym mwyty a聽chegin y coleg, yn paratoi, coginio a gweini ar gyfer y cyhoedd
  • Sesiynau ymarferol i feithrin聽sgiliau ar gyfer y gegin a'r bwyty
  • Gwaith theori mewn ardal ystafell astudio

Mae Campws Crosskeys hefyd yn cynnig Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol fel cymhwyster ychwanegol a byddwch hefyd yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, lle byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.

Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau gwasanaeth bwyty a choginio o Lefel 1 ac yn rhoi'r cyfle ichi gymryd rhan mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Cystadlaethau gwasanaeth bwyty 聽聽聽聽 a chelfyddydau coginio - Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau'r Byd
  • Cystadlaethau coginio mewnol
  • Cystadlaethau coginio聽cenedlaethol eraill
  • Ymweld 芒 chynhyrchwyr bwyd lleol
  • Teithiau i sioeau bwyd

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios, cyflwyniadau ac arddangosiadau, a byddwch yn ennill:

  • Coginio Proffesiynol Lefel 2
  • Rhaglen Sgiliau Cyfoethogi聽Creadigol
  • Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod 聽聽聽聽 Proffesiynol Lefel 1
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i聽gyfoethogi eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu鈥檔 uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Mae cymhwyster Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a/neu brofiad o weithio mewn cegin broffesiynol yn rhagofyniad ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig, yn weithgar ac yn gallu gweithio mewn t卯m. Bydd gennych bersonoliaeth gyfeillgar a bydd gofyn i chi fynychu lleoliad gwaith bob wythnos.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch neu Brentisiaeth, neu gyflogaeth fel pen-cogydd yn y diwydiant arlwyaeth a lletygarwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn ichi brynu offer llawn, gwisg cogydd a gwisg y bwyty a fydd yn costio tua 拢230.00, a bydd angen 拢50.00 ar gyfer manion.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Goginio Proffesiynol Lefel 2?

CFDI0127AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr