IMI Diploma Estynedig mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Er mwyn astudio鈥檙 cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Gradd Teilyngdod.
Gallwch hefyd ddilyn y cwrs yn uniongyrchol gyda lleiafswm o 5 TGAU gradd C, neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd, Saesneg a Gwyddoniaeth
Yn gryno
O fewn y cwrs hwn, ceir cipolwg trylwyr a dynamig ar y dechnoleg gymhleth, y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sy鈥檔 ymwneud 芒 cherbydau modur.
Mae gan y cwrs hwn unedau ychwanegol, o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 cymhwyster Diploma Lefel 2, i gynorthwyo'r ymgeiswyr hynny sy'n anelu at Addysg Uwch neu Brentisiaethau Lefel Uwch.
Os byddwch yn mynd yn eich blaen i wneud prentisiaeth mewn cerbydau modur, byddwch yn cwblhau鈥檙 elfen ddamcaniaethol sydd ei hangen i wneud hynny drwy鈥檙 cwrs hwn.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych eisiau astudio ar lefel gradd ar gyfer gyrfaoedd megis Peiriannydd Modurol
... Rydych eisiau dod yn dechnegydd diagnostig/uwch dechnegydd medrus
... Rydych yn gweithio鈥檔 galed ac yn datrys problemau鈥檔 dda.
... Rydych eisiau cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol
... Rydych yn gallu datrys problemau ac mae gennych ddiddordeb brwd mewn cerbydau
...Rydych chi eisiau gweithio i safonau proffesiynol uchel a'u cynnal
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn astudio'r unedau technoleg cerbydau canlynol fel rhan o鈥檆h astudiaethau:
- Gwaith cynnal a chadw cerbydau arferol
- Technoleg injan cerbydau ysgafn
- Systemau trydanol ac electronig cerbydau
- Technoleg fframiau cerbydau ysgafn
- Archwiliadau cerbydau
- Systemau trawsyriant cerbydau ysgafn
Byddwch hefyd yn astudio'r unedau uwch canlynol, sy鈥檔 ychwanegol at unedau'r Diploma Lefel 2 uchod:
- Mathemateg Cerbydau
- Gwyddoniaeth Cerbydau
- Electroneg Cerbydau
- TGCh Cerbydau
Byddwch yn cael eich asesu drwy dasgau ac arsylwadau profi gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion ar-lein.
Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Estynedig mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 2, Sefydliad y Diwydiant Moduron (IMI)
- Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau (fel rhan o鈥檙 Her Tystysgrif Sgiliau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn hanfodol, yn ogystal 芒'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o d卯m. Dylech hefyd fod yn awyddus iawn i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, cydymffurfio ag ethos y coleg a bod yn barod i wella eich lefel o wybodaeth am bynciau academaidd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma Lefel 3/Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- HNC Peirianneg Fodurol
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth
- Astudiaeth lefel uwch yn y brifysgol
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac ofer么ls, a fydd yn costio oddeutu 拢40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a鈥檆h ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0274AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr