City & Guilds Diploma mewn Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 1 mewn Egwyddorion Atgyweirio a Phaent Wedi Damwain, neu Ddiploma Lefel 1 Cyfwerth, a TGAU gradd D neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnegol ac academaidd am dechnoleg cerbydau.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Ydych wedi cwblhau Lefel 1 neu Lefel Mynediad 3 mewn egwyddorion paent
...Oes gennych brofiad yn y diwydiant ailorffen cerbydau
...Ydych eisiau ehangu eich sgiliau a’ch gwybodaeth
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn barhad o’r cwrs llawn amser yn y flwyddyn gyntaf ar gyrff cerbydau ac ailorffen cerbydau, ac mae’n rhoi sylw mwy manwl i ailorffen. Byddwch yn ymdrin â thaenu paent 2K, deunyddiau seiliedig ar ddwr a deunyddiau seiliedig ar bethau eraill, a hefyd byddwch yn ystyried gwahanol dechnegau taenu, fel technegau trwsio llecynnau bach, technegau ymdoddi a thechnegau ‘rhedeg i mewn’.
Byddwch yn ymdrin ag unedau’n ymwneud â’r canlynol:
- Gwybodaeth am iechyd a diogelwch
- Gwybodaeth am gymorth ar gyfer rolau swyddi
- Gwybodaeth am offer a chyfarpar a ddefnyddir i ailorffen cerbydau
- Gwybodaeth am ddefnyddio deunyddiau llenwi a chôt sylfaen
- Gwybodaeth am weithio gyda phlastigau
- Gwybodaeth am baratoi arwynebau metel ac arwynebau wedi’u paentio
- Gwybodaeth am drwsio mân ddiffygion ar arwynebau paent
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gwaith realistig
- Darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth sylfaenol
- Aseiniadau
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ymarferol ac asesiadau ar-lein, cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Lefel 2 mewn Trwsio Difrod Damweiniau – Egwyddorion Paent
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
- 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
- Diploma lefel 1 addas a TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf)
Beth sy'n digwydd nesaf?
Lefel 3 mewn Egwyddorion Paent, gwaith yn y diwydiant modurol neu Brentisiaeth mewn Trwsio Cyrff Cerbydau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0283AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr