VTCT Diploma mewn Aromatherapi ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£1080.00
Dyddiad Cychwyn
09 Ionawr 2025
Dydd Iau a Dydd Gwener
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
18:00
Hyd
10 wythnos
Gofynion Mynediad
Rhaid bod chi yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Aromatherapi, gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg.
Yn gryno
Cynlluniwyd y Diploma Lefel 4 VTCT mewn Aromatherapi ar gyfer y Therapydd Cyflenwol i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau a chymwysiadau aromatherapi uwch ymhellach. Mae hyn yn cynnwys eich gwybodaeth am olewau ychwanegol a'u defnyddiau therapiwtig yn ogystal 芒 damcaniaethau ac arferion cymhwyso aromatherapi rhagnodol ar lefel uwch.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych chi鈥檔 therapydd cyflenwol cymwys
...ydych chi鈥檔 meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Aromatherapi gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg
Beth fyddaf yn ei wneud?
Trwy'r cymhwyster hwn byddwch chi鈥檔 datblygu eich sgiliau rhyngbersonol tra鈥檔 ehangu eich dealltwriaeth o aromatherapi uwch. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddarparu鈥檙 wybodaeth hanfodol a fydd o gymorth wrth i chi i gymhwyso sgiliau therapiwtig uwch mewn lleoliad clinigol.
Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu am: sgiliau cyfathrebu effeithiol, paratoi ar gyfer triniaeth Aromatherapi ac asesu cleientiaid, cynllunio a chymysgu triniaeth, gwyddor fotanegol planhigion, cyfansoddiad cemegol olewau hanfodol, strategaethau Aromatherapi, tylino Aromatherapi, 么l-ofal a gofal cartref ac anatomeg a ffisioleg uwch.
Mae鈥檙 unedau a gwmpesir yn cynnwys:
- Sgiliau rhyngbersonol ar gyfer y therapydd cyflenwol
- Anatomeg a ffisioleg uwch ar gyfer y therapydd cyflenwol
- Aromatherapi Uwch ar gyfer y therapydd cyflenwol
Cynhelir asesiadau trwy greu portffolio o dystiolaeth, profion ysgrifenedig, arsylwadau ac astudiaethau achos i gynnwys arfer myfyriol. Bydd gofyn i chi ddarparu eich cleientiaid eich hun fel astudiaethau achos a chynnal a dogfennu tystiolaeth ar gyfer o leiaf 30 o driniaethau (5 cleient yn derbyn 6 triniaeth yr un).
听
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig ac yn gyfeillgar, meddu ar sgiliau rhyngbersonol da, dangos sgiliau meddwl beirniadol, rheoli amser yn dda ac yn gallu dangos presenoldeb a phrydlondeb rhagorol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain cyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, naill ai'n hunangyflogedig mewn clinig therapi cyflenwol, cyfleusterau harddwch/sba, neu mewn practis preifat. Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyflogaeth mewn ysbyty, hosbis neu amgylcheddau gofal iechyd eraill.
Er mai prif ddiben y cymhwyster hwn yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth, gallwch ddewis datblygu eich gwybodaeth a鈥檆h sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymhwyster arbenigol ar Lefel 4 mewn un neu fwy o鈥檙 meysydd canlynol:
- Diploma VTCT Lefel 4 mewn听Darparu Therap茂au i Gleientiaid 芒 Chanser neu Gyflyrau eraill sy'n Cyfyngu ar Fywyd
- Diploma Lefel 4 VTCT mewn Adweitheg ar gyfer y Therapydd Cyflenwol
- Diploma VTCT Lefel 4 mewn Tylino ar gyfer y Therapydd Cyflenwol
Datblygwyd y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol o fewn y sector therapi tylino. Oherwydd hyn, bydd y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau a enillir yn rhoi'r cyfle gorau posib i symud ymlaen i gyflogaeth.
Cefnogir y cymhwyster hwn yn ffurfiol gan y sefydliadau canlynol:
- Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yn ofynnol i chi wisgo gwisg clinig ac esgidiau addas.
Mae鈥檙 ffioedd cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Bydd y ffioedd tiwtora yn ddyledus ar adeg archebu/ymrestru. Gellir talu hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad os bydd rhaid. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen cadarnhad o hyn mewn ysgrifen fel bod y coleg yn gallu trefnu i'w anfonebu.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu darparu cleientiaid addas fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.
Manteision Masnachol a Busnes
Mae triniaeth aromatherapi yn costio rhwng 拢50 a 拢75 yr awr a llai os ydych chi鈥檔 cynnig cwrs o driniaethau.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPDI0503AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ionawr 2025
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr