City & Guilds Diploma mewn Rheolaeth Lletygarwch Lefel 4
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
4
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024
Hyd
2 flynedd
Gofynion Mynediad
Byddwch angen cymhwyster Lefel 3 lletygarwch ac arlwyo perthnasol i gael dilyn y cwrs hwn.
Yn gryno
Mae cymhwyster Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Lletygarwch ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel rheolwr lletygarwch, pennaeth adran, rheolwr cegin, prif gogydd, cogydd gweithredol, rheolwr swyddfa blaen, rheolwr blaen ty, rheolwr y dderbynfa, rheolwr llety, rheolwr cadw trefn, gweithiwr cadw trefn gweithredol, rheolwr bwyd a diod, rheolwr y bwyty, rheolwr bar yn y sector lletygarwch ac arlwyaeth, neu sy'n dymuno gweithio yn un o'r swyddi hyn.
Mae'n eich caniatáu chi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddatblygu gyrfa yn y sector lletygarwch ac arlwyo.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych yn gweithio yn y sector lletygarwch ar hyn o bryd
...rydych eisoes mewn swydd rheoli neu'n dyheu am ddyrchafiad i reolaeth
...rydych yn gallu gweithio'n annibynnol
...mae gennych lefel dda o lythrennedd a rhifedd
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gellir cyflawni'r cymhwyster mewn cyfnod o ddwy flynedd a bydd eich aseswr yn eich helpu chi i benderfynu pa unedau dewisol y dylech eu dewis sydd y mwyaf addas i chi.
Mae gan y cymhwyster nifer o lwybrau yn seiliedig ar eich swydd ac mae'r unedau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:
Unedau gorfodol yn cynnwys:
- Rheoli perfformiad timau ac unigolion
- Gweithio fel rhan o dîm rheolaeth lletygarwch i gyflawni nodau strategol
- Rheoli cydymffurfiad â gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol mewn lletygarwch
- Rheoli eich datblygiad proffesiynol o fewn sefydliad
Mae unedau dewisol mewn swyddi megis:
- Goruchwyliaeth Lletygarwch
- Rheoli Cegin
- Derbyniad Blaen Ty
- Gwasanaeth Bwyd a Diod
- Rheoli Llety
- Rheolaeth Lletygarwch Cyffredinol
Trafodir mwy o fanylion am eich dewis o unedau gyda'ch aseswr. Bydd yr unedau y cytunir arnynt yn bodloni rol eich swydd a chyfleoedd asesu.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae'n rhaid ichi fod yn gweithio yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo.
Bydd gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth mewn portffolio a'i reoli'n briodol ac yn unol â gofynion y corff dyfarnu.
Bydd aseswr o'r coleg yn ymweld â chi i gynnal asesiadau ac mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch aseswr i drefnu dyddiadau ac amseroedd addas
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn dilyn y cwrs hwn, efallai y byddwch eisiau dilyn rhaglen radd mewn Lletygarwch ac Arlwyo.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CODI0551AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr