CITB Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS)
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i鈥檙 cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Os ydych mewn swydd oruchwyliol ar safle, byddwch angen gallu helpu i gynllunio a threfnu iechyd a diogelwch ar y safle.
Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r holl ddeddfwriaeth berthnasol ac agweddau eraill sy'n effeithio ar weithio'n ddiogel yn y diwydiannau adeiladu a pheirianneg sifil. Mae'n amlygu'r angen am asesiad risg yn y gweithle, rhoi'r mesurau rheoli angenrheidiol ar waith, a chyfathrebu addas er mwyn cynnal diwylliant iechyd a diogelwch ymysg y gweithlu.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd wedi ymgymryd 芒 chyfrifoldebau goruchwylio, neu a fydd yn gwneud hynny.
...eich cyflwyno chi i broblemau iechyd a diogelwch, llesiant ac amgylcheddol.
...datblygu dealltwriaeth o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n berthnasol i weithgareddau eich gwaith.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hanfodol 2-ddydd hwn yn cynnwys:
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
- Heriau penodol ar y safle i oruchwylwyr.
- Trafodaethau Effeithiol ar Becyn Offer.
- Goruchwylio iechyd galwedigaethol.
- Diogelwch ymddygiad.
Byddwch yn cael eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys tasgau gr诺p ac arholiad 25 cwestiwn gyda chwestiynau aml-ddewis ac atebion ysgrifenedig byr.
Mae mynychu'r 2 ddiwrnod llawn yn orfodol.
Wedi i chi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif sy'n ddilys am 5 blynedd.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, dylai mynychwyr fod yn dal, neu bod ar fin dal r么l rheolwr safle. Byddai gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch blaenorol yn fanteisiol.
Argymhellir y dylai'r rhai sydd heb fod 芒 phrofiad mewn iechyd a diogelwch gwblhau'r Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylio Safle (SSSTS) cyn ymgymryd 芒'r cwrs Rheoli.
Mae'n rhaid i fynychwyr fod yn rhugl o ran Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar ar gyfer gweithredu'n effeithlon ar lefel rheoli safle.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae鈥檙 cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd 芒 ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy鈥檔 addas i鈥檞 ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd). ... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy鈥檔 gweithio, ac yn ennill llai na 拢30,596 y flwyddyn ac sy'n dymuno gwneud cais am y cwrs hwn fel rhan o'r fenter PLA, ymweld a'n wefaan PLA am fwy o wybodaeth.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0046AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.