Ůӟó

En

BPEC Dyfarniad mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Dwr Poeth Thermol Solar Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gosod a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol bach. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac fe'i cydnabyddir gan gyrff cofrestru'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) fel cymhwyster derbyniol i ymuno ag un o'u cynlluniau priodol.

Mae BTEC yn ddarparwr arbenigol o asesiadau, cyrsiau hyfforddi, deunyddiau dysgu a chymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan ddiwydiannau.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

... peirianwyr mecanyddol a phlymwyr cymwys sydd eisiau ymestyn eu sgiliau i osod a chynnal a chadw systemau technoleg amgylcheddol.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cymhwyster Lefel 3 hwn yn ddelfrydol os ydych yn blymwr neu beiriannydd profiadol sydd eisiau gosod a chynnal a chadw'r math hwn o dechnoleg amgylcheddol. Mae'n cynnwys 5 uned orfodol, sy'n cynnwys elfennau ymarferol a damcaniaethol. Rhaid cyflawni'r HOLL unedau er mwyn cyflawni’r cymhwyster cyffredinol.

  • Gwybod y gofynion ar gyfer gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dwr poeth thermol solar
  • Gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
  • Gwybod y gofynion ar gyfer archwilio, trin a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
  • Archwilio, trin a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’

Mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau damcaniaethol ac ymarferol.

Mae cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn profi bod dysgwyr yn gymwys i osod, comisiynu, datgomisiynu gwasanaeth a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar, ac felly, bydd yn ymestyn cyfleoedd gyrfa yn y maes technolegau newydd.

Gofynion Mynediad

Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf cymhwyster NVQ lefel 2/3 mewn plymwaith neu beirianneg gwresogi confensiynol

NEU dystiolaeth amlwg o feddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol

Yn ogystal â hyn, dylai ymgeiswyr hefyd eisoes wedi cwblhau:

- Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig Wedi’u Hawyru a Heb Eu Hawyru

/course/LA0038/bpec-domestic-hot-water-storage-systems-unvented?uioid=504788

- Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr

/course/LA0043/bpec-water-regulations-by-laws?uioid=504790

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn gweithredu fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer plymwyr cymwys a pheirianwyr mecanyddol sy'n dymuno ehangu eu sgiliau. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl am Wresogi Thermol Solar, a'r cymhwysedd i osod a chynnal a chadw yn amgylchedd y cartref.

Bydd dyddiadau cyrsiau yn cael eu trafod wrth wneud cais.

Cyflwynir y cwrs hwn yn ein Parth Dysgu Blaenau Gwent a champws Casnewydd yn seiliedig ar alw.


Mae'r cwrs fel arfer yn redeg dros 3 diwrnod.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BPEC Dyfarniad mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Dwr Poeth Thermol Solar Lefel 3?

MPLA0031AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.