Ůӟó

En

BPEC Rheoliadau / Is-ddeddfau Dwr

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cwrs yn cynnwys Rheoliadau Cyflenwad Dwr (Ffitiadau Dwr) (Cymru a Lloegr) 1999 ac mae’n bodloni gofynion Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dwr (WRAS) y mae’r mwyafrif o gwmnïau dwr y DU yn aelodau ohono.

Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol ym maes cymwysterau, cyrsiau hyfforddiant a deunyddiau dysgu a gydnabyddir gan ddiwydiant.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim a dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r uchafswm cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

... unrhyw un y mae angen dealltwriaeth o reoliadau/is-ddeddfau dwr arno. Yn enwedig, y rhai sy’n dymuno bod yn blymwyr/contractwyr cymeradwy.

Cynnwys y cwrs

Mae’r llawlyfrau hyfforddiant yn cynnwys 12 modiwl, rhagair a rhestr termau. Mae’r cwrs cynhwysfawr iawn yn dechrau trwy hyfforddiant dwys yn y 12 modiwl. Ar ôl hyn, bydd angen cwblhau’r asesiadau. Nid oes unrhyw elfennau ymarferol – mae’r holl hyfforddiant yn seiliedig ar theori. Mae’n rhaid i ymgeiswyr lwyddo i basio pob un o’r asesiadau i ennill tystysgrif WRAS/BPEC mewn Rheoliadau/Is-ddeddfau Dwr.

Cynhelir yr hyfforddiant a’r asesu yn y ganolfan sydd, fel arfer, yn para am un diwrnod. Fodd bynnag, bydd angen astudio annibynnol cyn mynychu’r sesiwn.

Bydd ennill y dystysgrif hon yn bodloni rhai o ofynion mynediad y meini prawf i ymuno â chynllun personau cymwys e.g. (APHC) lle, efallai y bydd angen cymhwyster cydnabyddedig mewn plymio.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar ychydig o wybodaeth am y diwydiant plymwaith a’r diwydiant dŵr.

Byddai angen dangos tystiolaeth/cadarnhâd fel rhan o’r broses ymgeisio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid oes gan dystysgrifau Rheoliadau/Is-ddeddfau Dwr ddyddiad dod i ben.

Anogir ymgeiswyr llwyddiannus i ymuno â chynllun cymeradwy ar gyfer plymwyr/contractwyr megis y rhai a reolir gan SNIPEF, APHC, CIPHE, WIAPS, a’r cwmnïau cyfleustodau dwr rhanbarthol. Mae hyn yn eu galluogi nhw i gyflwyno tystysgrif ar gwblhau gwaith i berchennog y cartref a’r cwmni dwr.

Sylwer, efallai y bydd angen cymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant arnoch chi er mwyn ymuno â’r cynlluniau hyn.

Os caiff ei gwblhau y tu allan i Gyfrif Dysgu Personol, cost y cwrs hwn fydd £375 yr ymgeisydd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BPEC Rheoliadau / Is-ddeddfau Dwr?

MPLA0043AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.