IMI Dyfarniad mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid/Trydan Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd 芒'u ffordd bresennol o fyw.
Mae yna angen cynyddol am dechnegwyr modurol i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan.
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio'n ddiogel ar systemau foltedd uchel sydd yn y ceir hyn.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... rheiny sy鈥檔 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na 拢32,371 y flwyddyn
...unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ar hyn o bryd
...unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid/trydan
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu drwy ystod o weithgareddau dosbarth a gwaith ymarferol yn ein gweithdai sydd 芒 chyfarpar gwerth chweil. Byddwch yn cael cyfle i weithio'n ymarferol gyda'n hystod o gerbydau trydan cyfoes.
Byddwch yn mynd i'r afael 芒:
- Gweithio'n ddiogel ar gerbydau gyda systemau foltedd uchel
- Gweithio'n ddiogel yn ystod cynnal a chadw arferol cerbydau hybrid/trydan
- Ailosod cydrannau mewn systemau foltedd uchel cerbydau hybrid/trydan.
- Trin cerbydau sydd 芒 difrod i'r systemau foltedd uchel
Cewch eich asesu drwy:
- Arholiad Ysgrifenedig
- Asesiad ymarferol
Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 2
Neu yn dilyn asesiad ymarferol pellach:
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 3
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs ar gyfer technegwyr sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ac yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu gyfwerth.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol o weithio gyda cherbydau hybrid/trydan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae ceir yn prysur gynyddu i fod yn rHai sy'n defnyddio trydan, a bydd gofynion Iechyd a Diogelwch ynddynt eu hunain yn gofyn ichi fod yn wybodus am ddiogelwch pawb.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ichi yn yr holl systemau cerbydau trydan sydd angen gofal ychwanegol a gwybodaeth arbenigol, a byddwch yn magu hyder a'r gallu i ddelio'n ddiogel ac effeithiol gyda phob math o gerbydau sy'n ymgorffori Systemau Foltedd Uchel.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0122AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.