女优阁

En

CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Sector

Sector
Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio, neu'n bwriadu gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a all fynd i'r coleg un diwrnod yr wythnos i astudio. Mae'n gymhwyster newydd sy'n ymdrin â'r cysyniadau allweddol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan adlewyrchu'r FFRAMWAITH SEFYDLU CYMRU GYFAN AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL newydd, sydd erbyn hyn yn sail i lawer o'r cymwysterau newydd yn y sector hwn.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... ydych yn 19+ oed, ac yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na 拢32,371 y flwyddyn

...ydych yn weithiwr gofal cartref a heb gofrestru eto gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac angen gwneud hynny

...ydych yn weithiwr gofal i oedolion a heb gofrestru eto gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac angen gwneud hynny

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o wybodaeth a dealltwriaeth am iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (oedolion)
  • Iechyd a lles (oedolion)
  • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diogelu unigolion
  • Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Cewch eich asesu trwy gymysgedd o astudiaethau achos a chwestiynau amlddewis a osodir yn allanol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus fe allech symud ymlaen i gymhwyster egwyddorion a chyd-destunau Lefel 2 neu 3 neu gymhwyster ymarfer, neu ddod o hyd i swydd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, dim ond dyhead i lwyddo yn y diwydiant gofal.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid yw lleoliad gwaith yn hanfodol i'r cwrs yma. Ond byddai'n fanteisiol pe bai gennych un ai leoliad fel gwirfoddolwr neu brofiad blaenorol o'r sector gofal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2?

MPLA0124AA
Campws Crosskeys

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.