女优阁

En

Myfyrwyr celf yn ymuno 芒'r heddlu


4 Hydref 2019

Myfyrwyr celf yn ymuno 芒'r heddlu

Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr sydd yn defnyddio eu doniau artistig i greu pinnau bowlio unigryw er mwyn eu gwerthu mewn ocsiwn elusennol. Mae Heddlu Gwent wedi diolch i’r myfyrwyr Gampws Dinas Casnewydd am gefnogi eu hymgyrch i godi arian at Glefyd Niwronau Motor. Fel diolch am eu cyfraniad at raffl ac arwerthiant elusennol cinio Gwobrau Chwaraeon Heddlu Gwent 2019, derbyniodd y myfyrwyr swp o roddion yn cynnwys paent a brwshys paent Mae’r myfyrwyr y defnyddio eu doniau i ddylunio a chreu darnau untro i’w gwerthu mewn raffl yn y digwyddiad, gan ddefnyddio pinnau bowlio wedi eu hailgylchu gan Superbowl.

Roedd Alex Donne, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) yn falch o gyfarfod y rheiny oedd yn cymryd rhan er mwyn trafod eu hysbrydoliaeth ac i gael golwg ar ddatblygiad eu syniadau. Dywedodd PCSO Donne, “”Ychydig fisoedd yn 么l gwelais fod pinnau bowlio ar werth mewn tudalen ‘ar werth’ leol, ac yna cefais y syniad ynghylch beth i’w wneud ar gyfer y raffl elusennol eleni. “”Cysylltais 芒 darlithydd Celf a Dylunio 女优阁 ar ddiwedd tymor diwethaf gan gyflwyno’r syniad ac ers hynny mae hi wedi defnyddio doniau ei dosbarth i ddylunio, paratoi a phaentio’r pinnau ar gyfer y prosiect. “Mae brwdfrydedd y myfyrwyr sydd yn cymryd rhan wedi fy syfrdanu ac rwyf ar bigau’r drain i gael gweld y darnau terfynol yn y cinio gwobrwyo fis nesaf.”

Eglurodd Charmaine Turner, darlithydd Celf a Dylunio sut mae’r prosiect wedi datblygu sgiliau academaidd ei myfyrwyr, yn ogystal 芒’u sgiliau cymdeithasol. Dywedodd, “Mae’r prosiect hwn wedi galluogi’r myfyrwyr i adeiladu cysylltiadau hanfodol gyda chymunedau lleol yn ogystal ag ennill profiadau bywyd go iawn. Maent wedi cael y cyfle i wneud y cysylltiad rhwng derbyn briff gan gleient a chynhyrchu’r darn terfynol.聽 “Drwy gefnogi achos da maent wedi gweld bod eu sgiliau a’u gwaith caled yn elwa ein cymunedau.” Bydd y gweithiau celf terfynol yn cael eu gwerthu mewn raffl yng nghinio Gwobrau Chwaraeon Heddlu Gwent ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref 2019.