6 Ebrill 2022
Wedi hir ymaros, ddydd Gwener 25 Mawrth cyflwynwyd yr Academi Fusnes ym Mharth Dysgu Torfaen, a ddathlwyd gyda lansiad llwyddiannus.
Nod y digwyddiad oedd cyflwyno’r academi i fusnesau lleol perthnasol, gyda’r bwriad o gryfhau perthnasoedd gyda sectorau busnes allweddol.
Cafodd y gwesteion fewnwelediad gan staff busnes y coleg, gan gynnwys enghreifftiau o sut i gymryd rhan yn y cynllun. Cawsant hefyd fwynhau taith o amgylch Parth Dysgu Torfaen sydd newydd agor, gyda diolch i fyfyrwyr busnes presennol y coleg.
Bydd yr academi fusnes yn bwydo i strategaeth ehangach y coleg, gydag elfen allweddol yn monitro’r cwricwlwm i sicrhau ei fod yn addasu’n barhaus i fodloni gofynion y byd gwaith ehangach. Bydd yr academi yn darparu llwyfan i hybu ymgysylltiad 芒’n rhwydweithiau cyflogwyr, gan fod o gymorth i fodloni blaenoriaethau sgiliau’r dyfodol a chefnogi cynnydd myfyrwyr.
Ymysg y cwmn茂au a fynychodd oedd sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, USW, Fox Group, My Business Lynq, St David’s Hospice, Everett Tomlin & Pratt, Stantec, Dragon Executive Management, Safran Seats GB, TCBC – Spring Board Business Innovation Centre a Pro Steel Engineering. Mynegodd yr holl fynychwyr ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r academi, a’r awydd i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut y gallant gymryd rhan a chyflawni budd iddynt hwy eu hunain a’n myfyrwyr yn y coleg.
Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd y gwesteion sgwrs gan Angharad Collins, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, a siaradodd am gydweithio parhaus y sefydliad 芒 女优阁:
“Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen wedi mwynhau gweithio gyda 女优阁 ac yn edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o’r academi, ac rydym yn awyddus i fod o gymorth i ddysgwyr Torfaen gydag unrhyw gyfleoedd y gallwn gymryd rhan ynddynt.
Rydym wedi mwynhau chwarae rhan fechan yn rhoi cymorth i fyfyrwyr yn barod, drwy ddangos gwahanol agweddau ar ein busnes iddynt yn ogystal 芒 chynnig cyfleoedd gwaith wrth iddynt ddysgu. Byddem yn bendant yn annog pob busnes sy’n ystyried cymryd rhan i wneud hynny!”
Dywedodd Jessica Pike, Cydlynydd Ymgysylltu 芒 Chyflogwyr ar gyfer Menter ac Astudiaethau Academaidd, sy’n gyfrifol am gydlynu’r academi a’r digwyddiad:
“Roeddem wrth ein bodd yn cael cymaint o aelodau o’n rhwydwaith cyflogwyr yn ymuno 芒 ni yn y lansiad hwn ac am eu diddordeb mewn ymuno 芒’r academi. Bydd yr academi yn cyflwyno sawl budd i’r busnesau hyn, yn ogystal 芒’n myfyrwyr, drwy sicrhau ein bod yn addysgu’r sgiliau a’r wybodaeth mae’r economi leol eu hangen a’u heisiau.
Dim ond y camau cyntaf sydd wedi eu cymryd yn rhai o’r partneriaethau hyn ond rwy’n sicr y bydd y cynllun yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda sawl ffordd o gymryd rhan a chyfleoedd i fusnesau o bob maint.”
Am fwy o fanylion ynghylch ymuno 芒’r academi, cysylltwch 芒 Jessica Pike, Cydlynydd Ymgysylltu 芒 Chyflogwyr drwy jessica.pike@coleggwent.ac.uk. Am fwy o wybodaeth ynghylch dod yn bartner 芒’r coleg edrychwch ar y manylion ynghylch sut mae gwneud hynny yn adran Cyflogwyr ein gwefan.