Ůӟó

En
Students visit nepal to help underprivileged children

Dysgwyr Ůӟó yn helpu plant dan freintiedig yn Nepal


13 Mawrth 2023

Bydd dysgwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent wedi cychwyn ar Raglen Dinasyddiaeth Fyd-eang i Nepal yn ddiweddar. Byddant yn gweithio gyda FutureSense Foundation a’i dimau lleol i gefnogi cymunedau gwledig, difreintiedig.

Mae FutureSense Foundation yn elusen datblygiad rhyngwladol lawr gwlad sy’n gweithio mewn chwe gwlad o amgylch y byd. Yn y rhaglen hon, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, yn gweithio gyda phlant lleol, yn cynnal gweithdai STEM, Saesneg llafar neu godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a llawer mwy.

students visit nepal

Ymdrechion codi arian 

Fel rhan o’r fenter hon, rydym hefyd yn codi arian i’r elusen, nid yn unig, barhau â’r gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ond i dyfu ei effaith. Mae’r Coleg wedi sefydlu lle gallwch chi roi arian a dangos eich cefnogaeth. Cyn iddynt fynd, bydd pob aelod o’r tîm yn anelu at godi £100 – dyma rai o’r ffyrdd y maent yn bwriadu cyrraedd eu targed:

  • Mae un dysgwr yn defnyddio peiriant Stairmaster i ddringo uchder sy’n cyfateb i dri mynydd.
  • Mae Dan Coles, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Allanol, wedi lliwio ei wallt yn goch (lliw Nepal) i godi arian!
  • Cwblhaodd pob aelod o’r grŵp Lefel 3 Gwasanaeth Cyhoeddus ras seiclo heb stopio ar ddydd Llun 13 Chwefror.

Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau codi arian eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, byddai unrhyw roddion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr. Hyd yma, mae’r grŵp wedi codi’r swm anhygoel o £2,798 ar gyfer FutureSense Foundation.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau ar brofiadau’r myfyriwr yng Nghathmandu.