Ůӟó

En
Cultural diversity day posters, food and speaker

Dathliadau Ůӟó ar gyfer Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig


7 Mehefin 2023

Mewn byd sy’n ffynnu ar amrywiaeth, mae’n hanfodol ein bod ni’n meithrin amgylchedd sy’n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol

Mae Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig, a gynhaliwyd ar 26ain Mai 2023, yn ffordd o’n hatgoffa ni am ba mor bwysig yw cydnabod a gwerthfawrogi diwylliannau a thraddodiadau gwahanol.

Yn Ůӟó, rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i gynwysoldeb gan ddathlu ar y cyd yn ystod digwyddiad a oedd yn talu teyrnged i Ddiwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol ac a oedd yn ennyn diddordeb trwy gynnig ystod o brydau bwyd blasus o bob cwr o’r byd.

Ddydd Gwener, daeth aelodau staff Ůӟó, gan gynnwys aelodau o’r Rhwydwaith Affineg Cydraddoldeb Hil a’r Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a dysgwyr ynghyd ar gyfer dathliad o fwyd a diwylliant i rannu traddodiadau, straeon a phrofiadau.

UN Cultural Diversity Day attendees laughing

Yn ogystal â gwledd o fwyd, mwynhaodd myfyrwyr ac aelodau staff berfformiadau gan y siaradwr gwadd, Bablu, a’r cerddor, Josh Whyte.

Dywedodd Nkechi Allen-Dawson, Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ůӟó: “Ar gyfer Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig, roeddwn i eisiau annog ein haelodau staff a’n dysgwyr i ymuno â ni wrth ddathlu’r holl ‘amrywiaethau’ ohonom ni ac eirioli ffyrdd o ddiogelu a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol yn eu cymunedau eu hunain. Yna, bydd pob un yn cael ei gynnwys ac ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl”.

Dywedodd un o fynychwyr y digwyddiad, Mukti: “Am gyflwyniad hardd o amrywiaeth a diwylliant gan Ůӟó. Roeddwn i wrth fy modd yn ei weld yn cael ei gynrychioli gan welyau o fwydydd o bob cwr o’r byd a’n bod ni wedi cael ein croesawu i flasu’r bwydydd yn ogystal â dyfalu o ba wlad roedd y bwydydd yn dod. Roedd yn brofiad a oedd wedi fy ysbrydoli i gymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn sy’n hyrwyddo ein hunaniaethau diwylliannol yn fwy. Da iawn i’r holl aelodau staff a oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn”.

UN Cultural Diversity Day food map

Trwy brofi diwylliannau gwahanol, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr ac aelodau staff ddysgu oddi wrth ei gilydd, cael safbwyntiau newydd a datblygu gwerthfawrogiad mwy am unigrywiaeth pob diwylliant.

Dywedodd un o fynychwyr y digwyddiad, Nadia: “Roedd bod yn rhan o’r digwyddiad yn hyfryd. Roedd pawb yn groesawgar iawn ac roedd yn amgylchedd cyfforddus. Roedd dysgu pethau newydd am ddiwylliannu gwahanol yn hyfryd ac roedd yn ffordd wych o ddod â phobl o ddiwylliannau gwahanol at ei gilydd”.

Dywedodd Nicola Gamlin, Is-bennaeth yn Ůӟó: “Roedd treulio amser yn dathlu ein cyfoeth o amrywiaeth gyda grŵp o unigolion gwych yn hyfryd. Diolch am y gwahoddiad!”

Mae effaith gadarnhaol ein hymdrechion i gefnogi Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r digwyddiad. Trwy gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, mae ein myfyrwyr a’n haelodau staff yn datblygu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer llwyddo yn y byd cyfoes.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein hymrwymiad i amrywiaeth, ewch i: /cy/our-college/diversity-and-inclusion