女优阁

En

Y brownis yn dysgu crefft gyda chymorth y Coleg


7 Tachwedd 2018

Y brownis yn dysgu crefft gyda chymorth y Coleg

Mae Brownis Gwent yn ychwanegu sgiliau crefft i’w sash anrhydeddau, diolch i Goleg Gwent.

Mae’r gr诺p Brownis o 26, sy’n rhan o Girlguiding Gwent, yn ymarfer eu gwaith paentio, gwaith coed a sgiliau plymwaith wrth iddynt weithio gyda’r coleg i greu eu bocsys adar eu hunain a phympiau ffynnon i’w gosod mewn coetiroedd ar draws y fwrdeistref.

Ers mis Medi, mae’r gr诺p o ferched, sy’n cael eu harwain gan Gomisiynydd y Sir a’r Dylluan Frown ar gyfer Brownis 1af ac 2il Frownis Magwyr, Andrea Rodley, wedi bod yn ymweld 芒 champws Pont-y-p诺l. Mae’r brownis, sydd rhwng 7 a 10 oed ac wedi bod yn cydweithio 芒’r darlithwyr a myfyrwyr adeiladu a gwaith coed, yn gobeithio cwblhau eu bocsys adar cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r coleg wedi gweithio gyda Girlguiding Gwent eisoes pan greodd 11 o Frownis Magwyr system dd诺r gaeedig yn ogystal 芒’i phrofi, gyda chymorth adran Plymwaith y Coleg.

Dywedodd Comisiynydd y Sir, Andrea: “Rwyf wrth fy modd gyda’r bartneriaeth hon ac ni allaf ddiolch digon i Goleg Gwent am y cyfleoedd y maent yn eu rhoi i ni. Mae’r merched a’u rhieni yn teimlo’n gyffrous iawn am y prosiect ac mae’n sicr yn creu cynnwrf yn y sir!”

Gallwch gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau adeiladu sy’n dechrau ym mis Ionawr 2019; ymgeisiwch heddiw!