ŮŸ

En
ŮŸ's five campuses - Usk, City of Newport, Crosskeys, Blaenau Gwent Learning Zone, and Torfaen Learning Zone

Chwalu’r mythau ynglŷn â bywyd yn y coleg – dyma’r ffeithiau!


6 Gorffennaf 2023

A ydych yn ystyried dilyn cwrs coleg?

Fel un o’r colegau gorau ei berfformiad yng Nghymru, gyda chyfraddau pasio sy’n gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU mewn Safon Uwch, cewch gyfleoedd lu yn ŮŸ i ysgogi eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer y dyfodol. Mae ein tiwtoriaid diwyd yn helpu ein dysgwyr i gyrraedd eu potensial a rhagori ar y disgwyliadau dro ar ôl tro, ac mae Tiwtoriaid Personol wrth law i gynnig cymorth bugeiliol ar hyd y ffordd.

Credwn fod dyfodol gwych o flaen pob un o’n dysgwyr. Felly, rydym eisiau i chi gredu ynoch eich hun i’r un graddau ag y credwn ni ynoch chi, ac rydym o’r farn y gallwch gyflawni eich dyheadau. Felly, os ydych wastad wedi breuddwydio am fynd i Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt, neu os oes yna lwybr gyrfa rydych wastad wedi bod eisiau ei ddilyn, gallwch fynd â’r maen i’r wal yn ŮŸ.

Ond mae yna gamdybiaethau cyffredin ynglŷn â mynd i’r coleg. Felly, darllenwch yn eich blaen i chwalu rhywfaint o’r mythau a chael gafael ar y ffeithiau!

Myth 1: Mae’r coleg yr un fath yn union â’r ysgol

Jesse Moody in engineering workshopFfaith: Nid yw’r coleg yr un fath â’r ysgol. Mae’r coleg yn lle ar gyfer twf, datblygiad a dysgu annibynnol, lle cewch eich trin fel oedolyn a lle gallwch ganolbwyntio ar eich gwir ddiddordebau. Yn y Coleg, bydd modd ichi astudio pynciau sydd wrth eich bodd a phynciau yr hoffech ddysgu mwy amdanynt. Gallwch ddewis eich llwybr eich hun! Hefyd, mae’r Coleg yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd naill ai’n ymarferol neu’n academaidd, ac mae’n ddewis amgen gwych ar gyfer astudio yn hytrach na mynd i’r chweched dosbarth.

Cafodd Jesse Moody ei addysgu gartref ac roedd yn teimlo’n nerfus ynglŷn â dychwelyd i’r amgylchedd addysg i astudio Peirianneg Fecanyddol. Ond llwyddodd i ymgartrefu ar ei union, a châi ei drin fel oedolyn bob amser. Yn ôl Jesse, “mae yna agwedd wirioneddol dda yn y gweithdai, gan y staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd – maen nhw’n eich trin yn gyfartal ac fel oedolion.”

Myth 2: Rhaid imi astudio cyrsiau Safon Uwch os ydw i eisiau mynd i’r brifysgol

Vet nurse learners with a horseFfaith: Un llwybr yn unig ar gyfer mynd i’r brifysgol yw Safon Uwch. Gwyddom fod gan bawb ei ffordd wahanol ei hun o ddysgu; felly, os nad yw cyrsiau academaidd, fel cyrsiau Safon Uwch, yn iawn i chi, gallwch astudio cwrs galwedigaethol, gan barhau i fod yn gymwys i gael lle mewn prifysgol. Mae ein cyrsiau galwedigaethol ymarferol yn dal i ennill pwyntiau UCAS, yr un fath â chyrsiau Safon Uwch. Yn wir, mae Diploma Lefel 3 yn werth hyd at 420 o bwyntiau UCAS, sy’n cyfateb i 3 A* mewn Safon Uwch. Golyga hyn y gallwch astudio cwrs ymarferol sy’n gweddu i chi, a pharhau i weithio tuag at fynd i’r brifysgol os mai dyna eich dymuniad. Ymhellach, gallwch hyd yn oed ddewis astudio cwrs lefel prifysgol yn y coleg, fel y gwnaeth Kieron Cole.

Astudiodd Kieron Radd Atodol BSc (Anrh) mewn Nyrsio Milfeddygol ar ôl treulio chwe blynedd yn astudio gyda Choleg Gwent. Yn ôl Kieron, “heb Gampws Brynbuga, fuaswn i ddim yn y sefyllfa yma heddiw nac yn gweithio mewn swydd sydd wirioneddol wrth fy modd.”

Myth 3: Rhywle i bobl na allan nhw ddilyn cyrsiau Safon Uwch yn unig yw’r coleg

Alicia Powell holding a Cambridge signFfaith: Nid ar gyfer dysgwyr galwedigaethol yn unig y mae’r coleg. Er bod ŮŸ yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol mewn pum campws gwahanol, mae hefyd yn cynnig cyrsiau Safon Uwch yng Nghampws Crosskeys, ym Mharth Dysgu Torfaen ac ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent. Mae myfyrwyr yn dewis dod i’r coleg ac yn dewis astudio cyrsiau sydd o wir ddiddordeb iddynt. Mae rhai’n mwynhau arddull academaidd cyrsiau Safon Uwch, tra mae eraill yn dymuno ennill mantais gyda phrentisiaeth neu raglen lle byddant yn creu portffolio o waith i’w helpu i gamu ar yr ysgol yrfa. Felly, pa un a ydych yn chwilio am gwrs galwedigaethol neu gyrsiau Safon Uwch i fynd i’r brifysgol, gall ŮŸ gynnig y cwbl ichi.

Llwyddodd Alicia Powell, un o ddysgwyr Safon Uwch Parth Dysgu Blaenau Gwent, i gael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Llenyddiaeth Saesneg ar ôl cael graddau gwych yn ei hastudiaethau Safon Uwch – A* a 3 A. I Alicia, “y peth gorau ynglŷn â Choleg Gwent fu’r cyfle i ddysgu’n unigol, oherwydd mae hyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngham nesaf ar ôl y coleg.”

Myth 4: Nid yw coleg yn lle i mi

Instructor at gymFfaith: Mae coleg yn lle i bawb. Pa un a ydych yn gadael yr ysgol neu heb fod yn rhan o addysg ers blynyddoedd, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i gwrs addas. Mae myfyrwyr a chanddynt amrywiaeth eang o ganlyniadau TGAU o bob cefndir yn dod i Goleg Gwent, ac mae’r coleg yn canolbwyntio ar eich helpu i gyrraedd eich potensial ac ennill y graddau gorau posibl yn eich dewis bwnc. Felly, os nad yw’r ysgol yn addas i chi ac os yw eich graddau’n is nag yr hoffech, os nad ydych wedi rhoi eich troed mewn ystafell ddosbarth ers degawd, neu os ydych yn ddysgwr deallus sydd â diddordeb yn Rhwydwaith Seren, mae croeso i bawb.

Daeth Robin Hammett i Goleg Gwent i astudio Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Roedd yn nerfus cyn dechrau yn y coleg, oherwydd roedd 27 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers iddo adael yr ysgol. Ond fel yr esbonia Robin, “Mae’r coleg mor wahanol i’r ysgol. Mae’n llawn oedolion sydd eisiau cyflawni rhywbeth. Roedd bod yn fyfyriwr hŷn yn brofiad brawychus, ond mae’r tiwtoriaid yn anhygoel ac maen nhw’n mynd y tu hwnt i bob disgwyliad er mwyn bod yno ichi.”

Myth 5: Efallai na allaf ymdopi heb gefnogaeth fy athrawon ysgol

Eve Tranter holding resultsFfaith: Cewch fwy o ryddid yn y coleg i weithio ac astudio’n annibynnol, ond fyddwch chi byth bythoedd ar eich pen eich hun. Gallwch wastad droi at gymuned ofalgar ŮŸ pan fyddwch angen help a chefnogaeth gan eich tiwtoriaid, eich cyfoedion neu eich Tiwtor Personol. Yn wahanol i’r ysgol, yn y Coleg byddwch yn cyfarch eich tiwtoriaid trwy ddefnyddio’u henwau cyntaf, a byddant yno wrth law i arwain a chefnogi eich dysgu. Ochr yn ochr â hyn, mae ŮŸ yn cynnig cymorth a gofal bugeiliol rhagorol er mwyn ichi allu cyrraedd eich potensial. Mae pob dysgwr yn cael tiwtor personol i’w helpu i gyrraedd ei nodau unigol yn y coleg.

Llwyddodd Eve o Groespenmaen i ennill pedair A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, gan ei galluogi i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Medd Eve, “roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy. Roedden nhw ar gael unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a bu’r cymorth a gefais ganddyn nhw yn wych.”

Myth 6: Nid yw myfyrwyr Safon Uwch yn cael cymaint o gyfleoedd neu gymaint o brofiadau â dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol

Learners in PolandFfaith: Yn ŮŸ, mae’r cyfleoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac mae hynny’n wir am gyrsiau o bob math. Mae’r rhaglenni Safon Uwch yn cynnwys teithiau maes yn ymwneud â phynciau penodol er mwyn ategu eich dysgu, fel teithiau Daearyddiaeth i Ogledd Cymru, ymweliadau â Phrifysgolion Caerfaddon a Chaerwysg ar gyfer myfyrwyr Cemeg Safon Uwch, teithiau Ffotograffiaeth i Ganolbarth Cymru, a theithiau Hanes i Auschwitz. Hefyd, cewch gyfleoedd i fynychu digwyddiadau ysbrydoledig yn rhai o’r prifysgolion uchaf eu bri yn y DU, fel y digwyddiad ‘Think Big’ yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, sy’n annog nodau i ymgyraedd atynt ymhlith pobl ifanc, gan anelu at annog ceisiadau llwyddiannus i brifysgolion gorau’r DU.

A hithau’n dyheu am fod yn feddyg pediatrig, darganfu Emily Curtis-Jones, dysgwr Safon Uwch o’r Coed-duon, fod ŮŸ wedi ei helpu i weithio tuag at ei nod a chael profiad gwaith gwerthfawr. Medd Emily: “Bu fy mhrofiad gwaith yn Ysbyty Neville Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn amhrisiadwy a llwyddodd i atgyfnerthu fy newis o ran gyrfa. Rydw i wedi cael cyfleoedd lu yn y coleg a chefais brofiad gwirioneddol gadarnhaol.”

Myth 7: Gwastraff amser yw mynd i’r coleg – fe allwn fynd i weithio ar fy union

Hannah James with large gold A star balloonFfaith: Mae’r coleg yn ‘bont’ wych rhwng addysg a gwaith. Mae gan Goleg Gwent gysylltiadau agos â chyflogwyr lleol ac arbenigwyr mewn diwydiant, ac mae’r rhain yn siapio’r cwricwlwm i ddiwallu gofynion gweithlu’r dyfodol. Felly, trwy fynd i’r coleg bydd modd ichi sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a’r hyder y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan eich gwneud yn llawer mwy cymwysedig a phrofiadol pan fyddwch yn troi at y byd gwaith. Hefyd, bydd modd ichi gamu yn eich blaen ynghynt yn eich gyrfa, a bydd ein cyrsiau’n cynnig cymwysterau a phrofiad ymarferol sy’n werthfawr i gyflogwyr, gan sicrhau y byddwch gam o flaen eich cydymgeiswyr.

Yn ôl Hannah James o Lynebwy, “mae astudio yn ŮŸ wedi rhoi cyfle imi feithrin fy hyder a’m sgiliau astudio annibynnol – bydd hyn yn hanfodol imi fel myfyriwr prifysgol a darpar gyflogai.”

Myth 8: Nid yw canlyniadau colegau cystal â chanlyniadau dosbarthiadau chwech

A level learners jumping at results dayFfaith: Bob blwyddyn, mae dysgwyr Safon Uwch ŮŸ yn rhagori ar y disgwyliadau ac yn esgor ar gyfraddau pasio sy’n gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU. Gan sicrhau cyfraddau pasio o 97% a mwy, mae nifer o’n myfyrwyr yn mynd yn eu blaen i astudio ym mhrifysgolion gorau Ymddiriedolaeth Sutton a Grŵp Russell yn y DU. Yn ychwanegol at hyn, ŮŸ, ar y cyd â choleg arall, yw’r coleg gorau ei berfformiad yng Nghymru ar gyfer dysgu galwedigaethol hefyd, gan esgor ar ganlyniadau gwych i ddysgwyr – canlyniadau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr lleol.

Llwyddodd Sophie Long o Argoed i gael canlyniadau gwych, sef tair A*, gan ei galluogi i fynd i Brifysgol Caergrawnt. Yn ôl Sophie: “Yn y gobaith o fynd i brifysgol fyd-enwog, mae ŮŸ wedi bod yn gam defnyddiol o ran meithrin fy ymdrechion i gyflawni hyn, ac roedd gwneud cais yn gynnar i fynd i Gaergrawnt yn arwydd o ba mor ymroddedig yw’r coleg i lwyddiant ei fyfyrwyr.”

Felly, os mai eich breuddwyd mawr yw astudio mewn prifysgol uchel ei bri fel Rhydychen neu Gaergrawnt, dewch i ddarganfod yr amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch sydd ar gael ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, yng Nghampws Crosskeys ac ym Mharth Dysgu Torfaen. Neu os ydych yn chwilio am gwrs ymarferol i roi hwb i’ch gyrfa, dewch i ddarganfod y cyrsiau galwedigaethol sydd ar gael yn eich campysau lleol, a gwnewch gais am gyrsiau a fydd yn cychwyn ym mis Medi er mwyn dechrau ar eich taith a mynd â’r maen i’r wal yn ŮŸ.

Hyd yn oed os ydych o’r farn nad yw prifysgol yn addas i chi, mae yna rywbeth i bawb yn ŮŸ.