10 Chwefror 2021
Yn dilyn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol mewn cof, gyda COVID yn effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi penderfynu cefnogi Elusen y Flwyddyn – . Mae elusennau fel Gofal Hosbis Dewi Sant wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan goronafeirws, ond drwy gydol y pandemig, maent wedi parhau i ddarparu eu gwasanaethau a chefnogaeth allweddol i deuluoedd sydd ei angen fwyaf, ac rydym eisiau eu helpu nhw i barhau â hyn.
I sicrhau bod eu gwasanaethau am ddim ar gael i gleifion a’u teuluoedd pan maent ei angen fwyaf, mae Gofal Hosbis Dewi Sant angen codi £9 miliwn o bunnoedd bob blwyddyn, gyda dim ond canran fechan yn cael ei chynnig gan lywodraeth leol a’r GIG. Felly, rydym eisiau eu helpu nhw i gyflawni’r nod hwn yn 2021.
Mae nifer o resymau pam ein bod ni wedi dewis Gofal Hosbis Dewi Sant fel ein Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2021:
Drwy gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant fel ein Helusen y Flwyddyn, byddwn yn annog ein staff a dysgwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol drwy gydol y flwyddyn, helpu i godi arian ar gyfer yr hosbis, yn ogystal â noddi rhai digwyddiadau allweddol yng nghalendr Gofal Hosbis Dewi Sant.
Eleni, byddwn yn cefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant gyda rhai digwyddiadau cyffrous – mae llawer i ddod yn ystod 2021!
Big Welsh Brew
Ar ddydd Llun 1 Mawrth 2021, byddwn yn dod at ein gilydd ac yn rhoi’r tegell ymlaen i gael sgwrs dros baned, a’r cyfan i gefnogi achos da.  fod mor fawr neu fach ag y dymunwch, felly pa un ai eich bod yn ymgynnull ar gyfer te prynhawn, G&T am 3, neu wydriad o win am 9, bydd cyfarfod rhithiol yn dod â chi’n agosach at eich anwyliaid yn ystod y cyfnod clo, wrth gefnogi’r hosbis hefyd.
Kolor Dash Cwmbrân
Ar 9 Gorffennaf 2021 (yn amodol ar sefyllfa COVID), bydd y Kolor Dash poblogaidd yn dod i Gwmbrân am y tro cyntaf, a bydd yn fwy lliwgar nag erioed. Mae  yn ras, taith gerdded neu ras ysgafn gylchol 5k yn llawn hwyl o amgylch North a South Fields, gyda’r ychwanegiad o baent powdr, lliw llachar, ewyn, dŵr, a gliter (bioddiraddiadwy) a stondinau cerddoriaeth ar hyd y ffordd! Mae’n addo i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl, cofiadwy a blêr, a gall unrhyw un o unrhyw oed ei fwynhau.
Ac mae mwy i ddod … cadwch lygad ar   i’r teulu cyfan, a  sydd ar y gweill, yn ogystal â Llyfr Coginio’r Enwogion i’ch cadw chi’n brysur yn y gegin yn ystod y cyfnod clo.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Gofal Hosbis Dewi Sant fel ein Helusen y Flwyddyn yn 2021, a’u cefnogi nhw i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol yn ein cymuned. O hoffech chi enwebu Elusen y Flwyddyn i’w hystyried ar gyfer 2022, anfonwch eich awgrymiad atom ni, yn ogystal â rhesymau pam yr hoffech chi enwebu eich elusen drwy e-bostio.
Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn darparu gofal lliniarol, unigryw ac am ddim i gleifion a’u teuluoedd, sy’n dioddef o salwch sy’n bygwth eu bywydau, a’u cefnogi nhw yn ystod y cyfnod mwyaf heriol o’u bywydau. Ar gychwyn eu gwaith roedd Hosbis Dewi Sant yn gofalu am chwe chlaf, nawr, mae’r elusen wedi tyfu i fod y darparwr gofal hosbis yn y cartref mwyaf yn y DU, gan ofalu am fwy na 3,200 o gleifion a theuluoedd bob blwyddyn. Maent yn darparu gofal 24 awr a gofal ar alwad gartref, yn eu hosbis dydd, ac yn yr ysbyty, ac mae ar gael i gleifion yng Nghasnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a De a Chanolbarth Powys. Maent hefyd yn darparu cyngor, cymorth teuluol, cymorth gyda phrofedigaeth, therapïau cyflenwol, gwasanaethau caplaniaeth, ac adnoddau addysgiadol hefyd.
Dysgwch fwy am Hosbis Dewi Sant yn .