10 Tachwedd 2020
Enw: Nibin Lukose
Cartref: Brynmawr
Cwrs: Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig HNC
Campws: Campws Dinas Casnewydd
Wrth gwblhau profiad gwaith yn ystod gwyliau haf yr ysgol gyda Chyngor Sirol Blaenau Gwent ac , daeth Nibin o hyd i’w ddiddordeb, a gwyddai ei fod eisiau gweithio yn y diwydiant Peirianneg Sifil mewn swydd ymarferol. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, cwblhaodd brentisiaeth gydag Alun Griffiths, a mynychu 女优阁 un diwrnod yr wythnos i astudio ein cwrs Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig HNC.
Pam y dewisoch chi 女优阁?
“Dewisais y cwrs hwn oherwydd roeddwn eisiau gwella fy ngwybodaeth am y diwydiant adeiladu a chwblhau fy nghymwysterau. Roeddwn yn mwynhau gwaith ymarferol yn yr awyr agored, ac nid oeddwn eisiau astudio’n llawn amser, felly prentisiaeth oedd y dewis gorau imi. Nawr, rwy’n Beiriannydd Sifil Prentis ar Raglen Datblygu Prentisiaid Alun Griffiths. Rwy’n gweithio 4 diwrnod yr wythnos ar y safle, ac yn mynychu’r coleg 1 diwrnod yr wythnos i ddysgu am y theori allaf ei defnyddio yn fy ngwaith.
Beth yw eich argraff gyntaf o’r coleg?
“Mae’n dda hyd yn hyn – mae’r athrawon yno pan rydych eu hangen nhw, ac yn barod i helpu bob amser. Cwblheais fy niploma yng nghampws Pont-y-p诺l, a dod i gampws Dinas Casnewydd ar 么l hynny ar gyfer fy HNC. Mae’r amgylchedd yn eithaf gwahanol, ond rwy’n ymgartrefu’n dda.
Yn sgil y Coronafeirws, mae mwy o gyfyngiadau ar hyn o bryd, felly rydym wedi cael llai o addysgu wyneb yn wyneb a gwaith gr诺p, ac mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb. Mae’n ddefnyddiol cael gorchudd wyneb 女优阁 ychwanegol, rhag ofn i mi golli fy un i – rwyf o hyd yn colli pethau!”
Beth sy’n gwneud y coleg yn wahanol i’r ysgol?
“Mae llawer o wahaniaethau o鈥檌 gymharu 芒’r ysgol! Mae mwy o fanylder i’r hyn rydych yn ei wneud, ac mae’r gwaith yn fwy heriol. Ond rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sgiliau newydd. Gan fy mod yn gweithio 4 diwrnod ac yn treulio 1 diwrnod yn y coleg bob wythnos, rwy’n ennill cyflog wrth ddysgu, ac mae fy nghyflogwr yn ariannu fy nghwrs coleg.”
Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn?
“Rwy’n mwynhau bod yn rhan o’r diwydiant, ac yn teimlo fod Peirianneg Sifil yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol. Derbyniais wobr ym mis Ebrill 2019, am fod y prentis mwyaf addawol yng Nghymru, a derbyn cydnabyddiaeth am fy nghynnydd a datblygiad gyrfaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan fynd o astudio ar lefel BTEC i HNC”
Beth yw eich nodau tymor hir?
“Nid wyf yn gwybod a fyddai’r brifysgol yn addas i mi, gan fy mod yn ffafrio gwaith ymarferol, ac nid wyf yn meddwl y byddai llwybr academaidd yn gweddu, ond hoffwn gwblhau fy HNC, a chwrs Meistr efallai. Yn y dyfodol, hoffwn ddod yn rheolwr/gweithredwr safle, neu gyfarwyddwr, gyda gobaith!”
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr sy’n meddwl am astudio yn 女优阁?
“Byddwn yn eich cynghori i wneud profiad gwaith yn y maes mae gennych ddiddordeb ynddo cyn ymrwymo i unrhyw beth, a gweld a ydych yn hoff ohono yn gyntaf. Byddwch yn cael profiad amhrisiadwy, cipolwg ar wahanol yrfaoedd, a chyfle i rwydweithio a gwneud cysylltiadau defnyddiol.”
Os mai swydd ymarferol sydd fwyaf at eich dant, fel Nibin, efallai mai prentisiaeth fyddai’r dewis cywir i chi. Mae ein prentisiaethau yn ymdrin ag ystod o yrfaoedd, o Waith Coed i Ofal Iechyd, Lletygarwch i Gynnal a Chadw Moduron, felly gallwch ennill cyflog wrth ddysgu ar sail ran-amser, hyblyg. Ewch i bori ein prentisiaethau a dod o hyd i’ch gyrfa gyda 女优阁.