28 Hydref 2022
Cafodd dysgwyr a staff gyfle i gymryd rhan mewn pencampwriaeth rasio gyffrous fel rhan o brosiect chwaraeon modur, ac ym mis Hydref byddant yn cael sgrialu ar draciau Silverstone.
Mae yn bencampwriaeth rasio lefel mynediad fforddiadwy, sy’n rhoi cyfle i’n dysgwyr adeiladu car rasio i safonau penodol, a chynnal a chadw’r car hwnnw yn ystod y tymor rasio. Mae’r yn is-ran o Gwpan City Car BRSCC. Mae’r her wedi’i dylunio i fod yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn hawdd ei hymgorffori i mewn i’r cwricwlwm, ac mae’n cynnig golwg go iawn o’r diwydiant mae ein dysgwyr Peirianneg Chwaraeon Modur yn camu i mewn iddo.
Cafodd Ůӟó rasio yn erbyn cyfanswm o 40 o geir ar y grid yng Nghwpan City Car BRSCC eleni, a chystadlu yn erbyn sawl coleg a phrifysgol arall o fewn Her Chwaraeon Modurol i Fyfyrwyr agoriadol yr Interserie, gan gynnwys Coleg Gorllewin Suffolk, Coleg Chichester, a Phrifysgol Sheffield Hallam. Cyrhaeddodd y bencampwriaeth ei hanterth yn y rownd derfynol ar Drac Rhyngwladol Silverstone, gan roi cyfle i Ůӟó rasio ar un o draciau rasio mwyaf enwog y byd.
Roedd ein prif dîm yn cynnwys 15 dysgwr Peirianneg Chwaraeon o Gampws Dinas Casnewydd a Pharth Dysgu Blaenau Gwent, gyda rhai myfyrwyr ychwanegol ynghlwm â gweithgareddau paratoi a datblygu amrywiol. Roeddynt yn gyfrifol am adeiladu’r ceir rasio i gyd-fynd â rheoliadau’r bencampwriaeth ar ddechrau’r prosiect, a’u cynnal a’u cadw yn ystod y tymor rasio.
Mae Cwpan City Car wedi bod yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau y datblygon nhw yn ystod eu cwrs mewn amgylchedd byd go iawn. Mae’r ceir wedi bod yn gyfarpar dysgu gwych, ac wedi rhoi cyd-destun i wersi theori a gwybodaeth sylfaenol gyda phrofiad ymarferol. Yn ystod y tymor hwn, mae ein dysgwyr hefyd wedi datblygu sgiliau rhyngbersonol ac wedi ffurfio cysylltiadau newydd gyda threfnwyr y bencampwriaeth a chyd-gystadleuwyr, a gallant ychwanegu’r profiad hwn ar eu CVs i ddenu sylw cyflogwyr posibl yn y dyfodol.
Cofrestrwyd dau gar gan dîm Ůӟó ar gyfer y bencampwriaeth, ac mae wedi bod yn brosiect â llawer o gydweithio rhwng dysgwyr a thiwtoriaid o’n campysau gwahanol. Cafodd y dysgwyr eu cefnogi gan diwtoriaid i gymryd rhan yng Nghwpan City Car, gan helpu i ddod o hyd i geir ac ymgorffori’r prosiect yng nghwricwlwm Peirianneg Chwaraeon Modur. Maen nhw wedi arwain y myfyrwyr i adeiladu a chynnal a chadw’r ceir rasio, a’u defnyddio fel cyfarpar dysgu gwych ar y campws, ac mewn digwyddiadau pencampwriaeth ledled y wlad.
Ar y trac, cafodd y tiwtoriaid George Jones a Mark Pope gyfle i yrru’r ceir yn y rownd derfynol yn Silverstone. Aeth y darlithwyr Dan Lockett, Ben Shaw, Richard Cooper, ac Alexis Dabee-Saltmarsh hefyd ati i gefnogi’r tîm a gyrru’r ceir mewn rasys yn ystod y tymor.
Yn rownd derfynol y bencampwriaeth fis Hydref, cafodd ein myfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Modur fwynhau’r profiad unigryw o weithio ar geir rasio Ůӟó yn garejis ‘pit’ byd-enwog Silverstone. Yn ystod y tymor, maen nhw wedi ymdrechu’n galed gyda’r her, ac wedi mwynhau gweld y ceir maen nhw wedi’u paratoi mor llwyddiannus yn cystadlu ar y trac rasio.
Er bod cystadleuaeth gref rhwng colegau a phrifysgolion eraill a ddefnyddiodd yrwyr rasio proffesiynol, llwyddodd y tîm i gipio naw lle ar y podiwm a thlysau ar ran Ůӟó, yn ogystal â thlws am ‘dîm gorau’r gystadleuaeth’. Ar y cyfan, mae wedi bod yn dymor cyntaf llwyddiannus iawn i dîm rasio Å®ÓÅ¸ó – llongyfarchiadau i’r myfyrwyr a’r staff a daniodd y prosiect cyffrous hwn!
Mae Peirianneg Chwaraeon Modur yn un o’r cannoedd o gyrsiau sydd ar gael yn Ůӟó, lle caiff eich profiad dysgu ei gyfoethogi gan weithgareddau allgyrsiol megis Cwpan City Car. Dysgwch fwy am ein cyrsiau yn ein digwyddiad agored nesaf a chymerwch y cam cyntaf at yrfa lwyddiannus yn y dyfodol.