10 Mai 2022
Yn agos iawn tu ôl i sawdl dysgwyr Peirianneg Chwaraeon Modurol Lefel 3 Parth Dysgu Blaenau Gwent, mae myfyrwyr a staff Cerbydau Modur Campws Dinas Casnewydd yn ymuno â’r am ychydig o gystadleuaeth rhyng-gampws gyfeillgar.
Tra bo Parth Dysgu Blaenau Gwent eisoes wedi adeiladu eu car ac wedi ei brofi ar y trac rasio, mae’r dysgwyr yng Nghampws Dinas Casnewydd ond megis cychwyn ar y daith gyda char rhodd gan .
Eglurodd George Jones, y tiwtor cwrs “Bydd y gweithgaredd hwn yn ymgysylltu dysgwyr drwy fisoedd yr haf er mwyn ysbrydoli cynnydd ymlaen at flwyddyn nesaf eu rhaglen cwrs. Byddant yn gweithio fel tîm i drawsnewid cerbyd ffordd safonol yn gar rasio gyda chymorth gan staff ac arbenigwyr ‘Yr Her Chwaraeon Moduro’. Cynhelir hyn fel gweithgaredd allgyrsiol yn ystod y tymor, gan gyfoethogi eu profiadau dysgu yn ŮŸ.”
Pan fydd y car yn barod i’w rasio, bydd cyfanswm o 7 ymweliad i wahanol gylchedau rasio o amgylch y DU drwy gydol misoedd yr haf, lle fydd cyfle i’r tîm o ddysgwyr brofi penwythnos llawn o chwaraeon modurol, wrth i’w car gystadlu yn erbyn colegau eraill yn y ‘Cwpan City Car’.
Bydd hon yn ymdrech ar y cyd rhwng Campws Dinas Casnewydd a Pharth Dysgu Blaenau Gwent, gan redeg dau gar a thîm ar wahân dan ymbarél ŮŸ. Yn ystod bob penwythnos ras, bydd y dysgwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r car rasio ac yn defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau y datblygon nhw yn ystod eu hastudiaethau i ddatrys unrhyw broblemau mecanyddol neu drydanol a all godi gyda’r car. Byddant hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu ac arfer broffesiynol, gan wneud y profiad yn rhywbeth gwerthfawr y gallan nhw ei ychwanegu ar eu CV a rhoi profiad gwych iddyn nhw mewn amgylchedd gwaith realistig.
Roedd gan James Thomas, sy’n ddysgwr Peirianneg Fodurol Lefel 3, brofiad o weithio ar geir drwy Marshfield Motors, lle’r oedd yn cynnal a chadw a gwneud atgyweiriadau syml i foduron ysgafn. Ond roedd yn awyddus i fynd ymhellach a dychwelodd i ŮŸ i ennill ei gymhwyster. Aeth ati i egluro “Rwyf wedi bod â diddordeb brwd mewn peiriannau, ceir, rasio a chwaraeon modur erioed, felly pan ddaeth y cyfle, fe neidiais amdano. Mae’n agor drysau ar gyfer swyddi, profiadau a chyfleoedd posib, felly penderfynais fynd amdani a chynrychioli’r coleg. Os gallaf gael y cyfle i weithio gyda cheir mewn amgylchedd fel hwn, rwy’n ei weld fel cyfle i serennu a gall agor drysau i swyddi mewn naill ai tîm pit neu ryw fath o ddatblygiad chwaraeon modur.”
Fel coleg addysg bellach, rydym wedi bod ar reng flaen hyfforddiant y diwydiant modurol yn Ne-ddwyrain Cymru ers blynyddoedd. Gyda chyrsiau mewn peirianneg fodurol, cynnal a chadw, ffitio ac atgyweirio cerbydau, mae Campws Dinas Casnewydd yn hwb ar gyfer hyfforddi arbenigwyr modurol y dyfodol.
Yn ddiweddar gwnaed adnewyddiadau i gyfleusterau gweithdy’r campws er mwyn eu moderneiddio, gan adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf yn y sector modurol. Mae’r campws yn ymfalchïo yn ei adnoddau o safon diwydiant, offer o’r radd flaenaf, ac ardal weithio olau a glân, fel y gall dysgwyr sy’n cymryd rhan yng Nghwpan City Car ymgyfarwyddo eu hunain ynghylch sut beth fydd camu i’r byd gwaith.
Mae’r diwydiant modurol wedi esblygu yn y blynyddoedd diwethaf. Felly, er mwyn cadw ar flaen y cynnydd yn y sector, rydym wedi buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf megis cerbydau trydan, i’w defnyddio a’u profi gan ein dysgwyr yn y coleg, gan eu paratoi ar gyfer y gweithle.
Mae dysgwyr ar y cyrsiau modurol yng Nghampws Dinas Casnewydd yn profi amrywiaeth eang o beirianneg a mecanweithiau modurol, o weithio ar gerbydau trydan i weithio ar geir rasio fel rhan o’r Cwpan City Car. Mae’n brofiad gwych i’w ychwanegu at eu CVs a gwella eu cyfleoedd i ennill cyflogaeth ar ôl y coleg.
Dysgwch fwy am yrfa yn y diwydiant modurol a chwaraeon modur yn ŮŸ – gwnewch gais am un o’n cyrsiau heddiw a gwireddwch eich breuddwyd!