3 Hydref 2019
Roedd gr诺p o’n dysgwyr听rheoli cefn gwlad听ymysg y gwirfoddolwyr a fu’n helpu鈥檙 garddwr teledu Alan Titchmarsh i drawsnewid gardd ar gyfer听.
Roedd Alan Garlick, tad i dri a gollodd ei ddwylo a’i draed i sepsis ddau fis ar hugain yn 么l, dan deimlad wrth weld yr ardd arbennig a gr毛wyd iddo ef a’i deulu ifanc.
Dywedodd Katharine Ross, y cynhyrchydd cynorthwyol, “Cafwyd ymateb calonnog gan y gymuned leol a helpodd i greu gardd atgofus o’r cefn gwlad lleol gyda’r nodweddion llawn steil y byddai teulu ifanc yn eu disgwyl.”
Dyma’r ardd gefn fwyaf i Alan weithio arni, gan fod y plot ym Mhont-y-p诺l yn orlawn o heriau megis lefelau serth anwastad a choed a llwyni wedi gordyfu.
Cyn i sepsis ymosod ar Chris roedd wedi bwriadu adnewyddu’r ardd ar ei ben ei hun. Roedd popeth yn edrych yn enbyd tan y daeth Alan a’r t卯m i greu gardd ddiogel a hygyrch i’r teulu.
Mae’r ardd newydd yn cynnwys ffynnon dd诺r fodern a mainc yn un wedi ei chreu o gledrau wedi eu trin a dur Corten yn ogystal 芒 dull plannu naturiolaidd yn pwysleisio arogl i greu gardd ddelfrydol ar gyfer llesiant.
Dywedodd Helen Morgan, Pennaeth Ysgol,听Diwydiannau’r Tir听a听Chwaraeon, “Roedd ein听dysgwyr rheoli cefn gwlad听yn falch o gynorthwyo gyda thrawsnewidiad yr ardd hon ar gyfer y sioe Love Your Garden – roedd yn brofiad ymarferol gwych iddynt.听 Rhoddodd y dysgwyr lawer o’u hamser i gynorthwyo, ac roeddynt yn llysgenhadon gwych ar gyfer y Coleg.听 Roedd yn brofiad hynod emosiynol.”
Darlledwyd y rhaglen ar 22 Hydref.
Darganfyddwch fwy ynghylch ein cyrsiau听rheoli cefn gwlad听a gwnewch gais nawr!