Ůӟó

En
Starting college - Ůӟó learners walking outside Crosskeys campus

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn dechrau yn y coleg


27 Mehefin 2023

Dechrau yn y Coleg ym mis Medi? Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich gweld yn ymrestru a mwynhau Wythnos y Glas cyn bo hir. Ond, i’ch helpu i baratoi yn y cyfamser, dyma beth sydd angen ichi ei wybod am fywyd coleg a sut mae’n wahanol i’r ysgol:

Rydych yn gyfrifol am eich dysgu eich hun

Mae Coleg yn amgylchedd dysgu annibynnol, felly bydd disgwyl i chi fynd i’ch gwersi, cymryd rhan mewn gwaith dosbarth, a chwblhau eich gwaith cwrs ar amser. Ni fyddwch mewn gwersi trwy’r dydd, felly bydd angen i chi dreulio amser yn astudio y tu allan i wersi a dysgu i reoli eich amser yn effeithiol.

Mae llwyth o gefnogaeth ar gael

Gall y naid o’r ysgol i’r coleg ymddangos yn frawychus, ond rydym yma i’ch helpu i bontio mor llyfn â phosibl. Pan fyddwch yn ymrestru, byddwch yn cwrdd â’ch Tiwtor Personol, a fydd yn medru eich helpu gyda materion academaidd a bugeiliol. Mae hefyd ystod eang o wasanaethau cymorth coleg, yn eich helpu bob cam o’r ffordd, o gymorth Mathemateg a Saesneg i gyngor ar iechyd a llesiant.

Mae pawb yn yr un cwch

Os ydych yn teimlo’n bryderus ynghylch dechrau yn y coleg, cofiwch, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae pob dysgwr newydd yn teimlo ychydig yn anesmwyth ac yn nerfus am gamu i fyd hollol newydd. Ond mae cymuned Ůӟó bob amser yn gefnogol, yn groesawgar ac yn gynhwysol o bawb, felly byddwch yn teimlo’n gartrefol ar unwaith.

Byddwch yn cwrdd â ffrindiau newydd ym mhob man

Os nad ydych yn adnabod unrhyw un yn y coleg eto, mae hynny ar fin newid. Byddwch yn cwrdd â llwyth o ffrindiau newydd yn ystod Wythnos y Glas ac yn eich dosbarthiadau. Rydych yn sicr o fod â thipyn yn gyffredin â’ch ffrindiau newydd gan eich bod wedi dewis astudio’r un pynciau sydd o wir ddiddordeb i chi. Mae gwneud ffrindiau newydd yn rhan fawr o fywyd coleg!

Starting college - making friends

Gwnewch y mwyaf o wythnos y Glas

Mae Wythnos y Glas yn gyfle gwych i archwilio Undeb y Myfyrwyr, dod i arfer â’ch amgylchedd campws newydd, dysgu am wasanaethau cymorth yn y coleg, a dod o hyd i grwpiau myfyrwyr sydd o ddiddordeb i chi. Mae’n wythnos o weithgareddau hwyliog i’ch helpu i setlo i fywyd coleg cyn i wersi ddechrau, a chyflwyniad i’ch astudiaethau hefyd.

Dim iwnifform… neu iwnifform newydd sbon

Nid oes angen gwisgo iwnifform i’r coleg ar gyfer llawer o gyrsiau – felly gallwch fynegi eich personoliaeth unigryw. Ond ar gyfer rhai cyrsiau fel Peirianneg, Gwallt a Harddwch, Coginio, ac Amaethyddiaeth, bydd disgwyl i chi wisgo’r iwnifform briodol ar gyfer eich hyfforddiant ymarferol, fel gwisg cogydd, oferôls glas, neu gyfarpar diogelwch personol.

Nifer o gyfleoedd newydd cyffrous a chyfoethogi allgyrsiol

Mae cyrsiau coleg wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu gyflogaeth. Felly, yn ystod eich cyfnod yn y coleg, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd cyfoethogi i adeiladu ar eich profiad a sgiliau. O gystadlaethau cenedlaethol a lleoliadau gwaith, i ymweliadau prifysgol, chwaraeon, a theithiau maes, mae popeth yn eich helpu i dyfu a chyrraedd eich potensial.

Byddwch yn cael eich trin fel oedolyn

n y coleg, byddwch yn cael eich trin fel oedolyn. Bydd eich tiwtoriaid yn eich parchu a byddwch yn cyd-dynnu’n wych â nhw. Mae’n wahanol i’r ysgol, oherwydd gallwch ddefnyddio enwau cyntaf eich tiwtoriaid a dod i’w hadnabod yn ystod eich astudiaethau. Ond byddant yn dal i fod o gwmpas i arwain a chefnogi eich dysg.

Mae dechrau yn y coleg yn adeg gyffrous ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i deulu Ůӟó yn fuan. Os nad ydych wedi ymgeisio eto, nid yw hi’n rhy hwyr i ymuno â ni ym mis Medi er mwyn Llwyddo Gyda Å®ÓŸó – Gwnewch gais nawr!