13 Ionawr 2021
Yn 女优阁, rydym yn falch fod gennym gysylltiadau cryf gyda chyflogwyr lleol, ac rydym yn cychwyn 2021 gyda聽ffordd o weithio a arweinwyd gan gyflogwyr.聽Rydym yn credu mai’r ffordd orau o adnabod anghenion cyflogwyr yw drwy weithio’n agos gyda nhw, i ddatblygu ein cwricwlwm a chyrsiau er budd gweithlu’r dyfodol.
Mae nifer o ffyrdd i gyflogwyr lleol聽weithio gyda ni.聽Mae’n fanteisiol i’w busnes a’n dysgwyr, ac mae busnes arloesol聽聽yn Nhrefgwilym yn enghraifft o un cyflogwr lleol rydym wedi gweithio ag o’n ddiweddar, ac roedd y bartneriaeth yn llwyddiant enfawr.
Gwasanaeth danfon bwyd yw聽, ac fe’i lansiwyd yng nghanol pandemig COVID-19.聽Roedd y cysyniad gwreiddiol yn syml – cwrt bwyd allanol, bar a lleoliad, yn cynnwys oddeutu 9 cegin mewn cynhwysydd cludo, gyda phob un yn gweini ystod eang o brydau bwyd wedi’u hysbrydoli gan arddull bwyd stryd.聽Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd y pandemig, roedd dau ddewis yn wynebu’r perchnogion, Jordan Phillips, Barry Fallon ac Amar Karia: rhoi’r gorau i’w cynllun, neu addasu.
Penderfynon nhw addasu i’r sefyllfa yr oeddynt ynddi, a lansio eu busnes drwy weithio mewn cegin mewn un cynhwysydd cludo er mwyn cynnig bwyd o ansawdd bwyty. Fe ddechreuon nhw drwy arbenigo mewn byrgyrs Cajwn, c诺n poeth Americanaidd a burritos gyda rys谩it Mecsicanaidd traddodiadol, ac fe ddylunion nhw eu gwefan a system archebu eu hunain i gystadlu gyda Just Eat, Deliveroo ac Uber Eats.
Wrth i’r busnes fynd o nerth i nerth, ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Tin Can Kitchen eu bod nhw’n agor ‘can’ #2 – gwasanaeth danfon pitsas o’r enw Al Forno. Fodd bynnag, wrth i’r busnes ddatblygu, roeddynt angen help llaw.
Am ei fod yn fusnes newydd, roedd Tin Can Kitchen eisiau rhoi rhywbeth yn 么l i’r cymunedau a’u helpodd nhw i ffynnu.聽Roedd y coleg wedi’i leoli’n agos at Tin Can Kitchen, ac roedd y perchnogion, Jordan, Barry ac Amar yn ymwybodol ein bod ni’n gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau lleol, felly roedd yn gwneud synnwyr iddynt gysylltu 芒聽Champws Crosskeys聽am gymorth.
Mae arddangos eu cynnyrch yn y ffordd orau ar draws ystod o sianelau yn hanfodol ar gyfer llwyddiant Tin Can Kitchen.聽Felly, fe weithion nhw gyda’n hadran聽蹿蹿辞迟辞驳谤补蹿蹿颈补别迟丑听ar gampws Crosskeys i gael lluniau o safon proffesiynol o’u cynnyrch at ddibenion marchnata.聽Llwyddodd ein myfyrwyr聽蹿蹿辞迟辞驳谤补蹿蹿颈补别迟丑听talentog i dynnu lluniau o’u bwydlen nos gyfan yn ein stiwdios, a’u galluogi nhw i ddarparu lefel o broffesiynoldeb nad oedd Tin Can Kitchen yn gallu ei ddarparu ar y safle.聽Dywedodd Jordan “roedd y lefel o broffesiynoldeb a dyfeisgarwch a arddangoswyd ar y diwrnod yn rhagorol.”
Oherwydd y bartneriaeth hon, mae Tin Can Kitchen wedi cael deunyddiau gweledol arbennig ar gyfer hyrwyddo eu gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol, ac yn ogystal, mae mwy o waith ar y cyd 芒 女优阁 yn yr arfaeth. Maent eisoes wedi trefnu sesiwn tynnu lluniau ar y safle ar gyfer eu gwasanaeth danfon pitsas newydd, lle bydd nifer o ddysgwyr yn gweithio gydag Al Forona i greu ystod o ddeunyddiau golygyddol, dan arweiniad Peter Britton, tiwtor ffotograffiaeth.
Yn y cyfamser, mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfle i’n dysgwyr weithio ar friff prosiect byw gyda busnes lleol. Mae’r profiad yn eu helpu nhw i wella eu sgiliau, a rhoi golwg fanwl iddynt o’r yrfa greadigol ac amrywiol hon, a’r mathau o brosiectau y gallant weithio arnynt ar 么l gadael y coleg. Dywedodd Peter Britton, darlithydd ffotograffiaeth:
“Rhoddodd Tin Can Kitchen gyfle i’n myfyrwyr Ffotograffiaeth Gradd Sylfaenol ymarfer ffotograffiaeth bwyd yn y stiwdio proffesiynol yng Nghampws Crosskeys. Darparodd y Tin Can Kitchen eu bwydlen lawn, yn cynnwys byrgyrs gourmet, c诺n poeth, burritos, byrgyrs llysieuol a phrydau ar yr ochr i’r myfyrwyr gradd dynnu lluniau ohonynt (a’u mwynhau ar ddiwedd y sesiwn!). Cafwyd diwrnod gwych, ac ar 么l y sesiwn tynnu lluniau, roedd gan y myfyrwyr bortffolio ffotograffiaeth bwyd proffesiynol, a chleient clodfawr i’w ychwanegu i’w rhestr. Derbyniodd Tin Can Kitchen luniau arbennig ar gyfer eu gwefan a llwyfannau cymdeithasol, ac fe enillodd y myfyrwyr enw i’w ychwanegu i’w portffolio, a phrofiad gwerthfawr o dynnu lluniau yn y stiwdio.”
Mae gweithio gyda chyflogwyr yn ein cymuned yn ein helpu ni i deilwra ein cwricwlwm, i ddarparu’r sgiliau y bydd ein dysgwyr eu hangen ar gyfer y byd gwaith, a darparu ein cyflogwyr lleol gyda gweithlu medrus tu hwnt.聽Os ydych chi鈥檔 fusnes allai elwa o bartneriaeth gyffelyb gyda ni, dysgwch fwy nawr.