女优阁

En
Nadine's Autism challenge

Mis Awtistiaeth y Byd - Sut allwn ni fod yn fwy ystyriol o awtistiaeth?


16 Ebrill 2021

Mae mis Ebrill yn . Yma, mae Nadine Wood, un o’n Swyddogion Adnoddau Dysgu ymroddgar yn 女优阁, yn rhannu ei stori ac yn esbonio pam y dewisodd gwblhau her i wella ymwybyddiaeth o awtistiaeth.

Roedd Nadine yn cwblhau’r her er budd y National Autistic Society – sefydliad gwych sy’n darparu llawer iawn o gymorth a gwybodaeth werthfawr i bobl awtistig a’u teuluoedd, yn ogystal ag arweiniad a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol. Maent hefyd yn ymgyrchu i gael gwell hawliau, gwasanaethau a chyfleoedd i bobl awtistig. A hithau’n fam i dri o fechgyn, gyda dau ohonynt – Kellan sy’n 13 oed a Joshua sy’n 6 oed – wedi cael diagnosis o awtistiaeth, mae Nadine yn awyddus iawn i wella ymwybyddiaeth. Ac yn 女优阁, rydym yn annog pob aelod o’n staff i wella eu dealltwriaeth er mwyn helpu i wneud amgylchedd ein coleg yn fwy ystyriol o awtistiaeth.

Profiadau Nadine o awtistiaeth

Mae bod yn fam i blant awtistig yn dod 芒 nifer fawr o heriau bob dydd (a bob nos!), wrth iddynt ddysgu dod o hyd i’w ffordd drwy’r byd. Mae bechgyn Nadine yn hoffi cael digonedd o strwythur a threfn, ac amser a lle iddynt eu hunain. Mae ganddynt hefyd wahaniaethau synhwyraidd. Mae hyn yn golygu eu bod weithiau’n cael anhawster wrth geisio prosesu gwybodaeth synhwyraidd, ac yn aml gall sefyllfaoedd neu fannau lle mae llawer o bethau’n digwydd, neu newid i’w trefn arferol, fod yn ormod iddynt ac achosi iddynt deimlo dan straen.

Ond er gwaethaf yr anawsterau maent yn eu hwynebu, mae Kellan a Joshua yn fechgyn rhagorol sy’n gwneud i Nadine deimlo’n falch ohonynt bob dydd. Mae gan Kellan synnwyr digrifwch sych rhyfeddol (mae’n gallu dynwared Donald Trump i’r dim!), mae ganddo ddawn am fathemateg ac ysgrifennu straeon, mae’n g么l-geidwad penigamp i’w d卯m lleol ac mae’n berson cymdeithasgar iawn. Wedyn, mae gan Joshua synnwyr digrifwch gwych ac mae’n hoff iawn o gael hwyl. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn geiriau a rhifau ac mae’n darllen ar lefel llawer uwch na’r disgwyl am ei oed. Mae wrth ei fodd yn dawnsio a chanu (ar yr amod mai fe yn unig sy’n canu!) ac mae’n caru ei deulu a’i gi, Bo!

Gyda’i meibion yn ysbrydoliaeth iddi, mae Nadine yn credu’n gryf, er y gall bobl awtistig wynebu sawl her a chael gwahanol anghenion cymorth drwy gydol eu bywydau, fel pawb arall, mae ganddynt eu cryfderau a thalentau unigryw eu hunain y dylid eu croesawu a’u hannog, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei werthfawrogi yn 女优阁. Mae croeso i bob dysgwr yn y coleg, ac rydym yn ceisio creu amgylchedd cynhwysol gyda’r holl gymorth ac arweiniad y mae arnoch ei angen i ffynnu a llwyddo.

Her ‘Super 7’

Felly, ar gyfer ei her ‘Super 7’, penderfynodd Nadine gwblhau her ffitrwydd bob dydd am saith diwrnod, gyda thema ‘super 7’. Fe redodd 7k bob yn ail diwrnod ac, ar y diwrnodau rhwng y rheiny, fe gwblhaodd gylch ffitrwydd a oedd yn cynnwys saith rownd o ymarfer corff. Roedd yr ymarferion yn cynnwys neidiau gwasg, siglo kettlebells, sit ups, sgipio, neidiau seren, rhagwthion a phlanciau. Ar gyfer diwrnod olaf yr her, cerddodd Nadine saith milltir o’i chartref i Gastell Caerffili, ac mae’n falch o fod wedi codi cyfanswm o !

Nadine's Autism challenge on Strava

Ar ben hyn oll, mae Nadine yn cadw’n eithriadol o brysur wrth iddi hi, ynghyd 芒 nifer o’i chydweithwyr yn 女优阁, astudio am Dystysgrif 脭l-radd mewn Awtistiaeth. Er bod ganddi eisoes ddealltwriaeth dda o awtistiaeth, mae’r cwrs wedi gwneud iddi feddwl mwy am y problemau y gall pobl ifanc ac oedolion eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, ac mae’n dweud ei fod yn hynod ddiddorol a buddiol.

Felly, sut allwn ni fel coleg fod yn fwy ystyriol o awtistiaeth?

Mae awtistiaeth yn effeithio ar o leiaf un allan o bob 100 o bobl yng Nghymru ac mae ymwybyddiaeth o awtistiaeth wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydym yn teimlo’n obeithiol ein bod bellach yn symud tuag at ddull o greu amgylcheddau sy’n addas i anghenion dysgwyr awtistig, yn hytrach na bod disgwyl i unigolion newid i gyd-fynd 芒’r amgylchedd.聽Hefyd, oherwydd bod amrywiaeth o dechnoleg, apiau a chymorth ar gael yn y coleg, mae’r potensial yno i’r dysgu fod yn llawer mwy hyblyg a chynhwysol ar gyfer pobl awtistig, y gallai dulliau addysgu mwy ‘traddodiadol’ achosi her iddynt.聽Felly, yn 女优阁, rydym yn annog ein staff i wylio er mwyn gwella ymwybyddiaeth a pharodrwydd i dderbyn, a chwalu’r rhwystrau y mae dysgwyr awtistig yn eu hwynebu.

Mae Nadine yn esbonio bod rhaid inni i gyd wneud y canlynol er mwyn creu amgylchedd mwy ystyriol o awtistiaeth yn 女优阁:

  • Darparu ar gyfer anghenion synhwyraidd, cyfathrebu a chymdeithasol unigolion sydd ag awtistiaeth ym mhob agwedd ar fywyd y coleg, gan gofio bod pob person awtistig yn wahanol.
  • Sicrhau bod yma aelodau o staff sydd wedi cael hyfforddiant i fod yn ymwybodol o wahanol anghenion ac sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth.
  • Ystyried faint o ysgogiadau synhwyraidd sydd mewn ystafelloedd dosbarth, fel bod unigolion sydd ag awtistiaeth yn gallu goddef bod yn y lle hwnnw.
  • Darparu lle diogel y gall dysgwyr a staff awtistig fynd iddo os ydynt yn teimlo dan straen.
  • Ymateb i adborth gan y gymuned awtistiaeth, a sicrhau bod lleisiau dysgwyr a staff awtistig yn cael eu clywed.

Gallwch weld pa gymorth sydd ar gael i ddysgwyr awtistig yn 女优阁 yma, neu gallwch ymuno 芒’n Digwyddiad Agored Rhithiol nesaf i gwrdd 芒’n staff cymorth a chael mwy o wybodaeth.