13 Gorffennaf 2022
Mae yn cael eu cynnal unwaith eto ar gyfer 2022, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Ůӟó ar frig bwrdd arweinwyr Cymru eleni, wrth i ddysgwyr 22 gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK!
Ar ôl ennill 35 medal yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni, a oedd yn gamp anhygoel, mae ein dysgwyr wedi mynd gam ymhellach, ac maent wedi defnyddio eu sgiliau i gyrraedd lefel genedlaethol WorldSkills UK unwaith eto. Bydd y dysgwyr yn arddangos eu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys celf gemau, ail-orffennu cerbydau, colur, cynhyrchu cyfryngau digidol, iechyd a gofal cymdeithasol, garddwriaeth, TG, cerbydau modur, gwasanaeth bwyty a thrin gwallt; mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr ymarfer a chyflwyno eu sgiliau mewn amgylchedd cystadleuol.
Mae Ůӟó yn rhan o , sy’n dangos bod ein tiwtoriaid yn cynnig hyfforddiant technegol o safon arbennig a bod ein pum campws yn cynnig cyfleusterau o safon y diwydiant i ddysgwyr gael gweithio â nhw. Felly, yma yn Ůӟó, gallwch ddatblygu’ch sgiliau ymarferol yn lleol, a dangos eich gallu ar lwyfan cenedlaethol yng nghystadlaethau WorldSkills UK.
Mae cystadlaethau WorldSkills UK wedi cael eu dylunio gan arbenigwyr o’r diwydiant, ac maent yn ymdrin â 60 sgil gwahanol o sectorau megis gwallt a harddwch, arlwyo, a pheirianneg fodurol. Mae’r cystadlaethau’n cefnogi dysgwyr i godi safonau mewn addysg sgiliau ledled y wlad. O fewn y rowndiau terfynol, asesir gwybodaeth, sgiliau ymarferol a nodweddion cyflogadwyedd y dysgwyr.
Llongyfarchiadau gwresog i’r dysgwyr isod o Ůӟó am gyrraedd Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, sy’n cael eu cynnal fis Tachwedd:
Pob lwc i bawb o Ůӟó sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol! Gallwch ddysgu mwy am ddangos eich sgiliau ar lwyfan cenedlaethol ac astudio yn Å®ÓÅ¸ó – y coleg sy’n perfformio orau ar y cyd o ran astudiaethau galwedigaethol yng Nghymru – yma www.coleggwent.ac.uk.