Rydyn ni yn y Coleg yn deall – gall rheoli eich cyllid tra’n jyglo astudiaethau wir fod yn heriol. Ond rydyn ni yn eich cornel – p’un a ydych yn astudio cwrs Galwedigaethol, Lefelau A neu Addysg Uwch. Cymerwch olwg ar yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael i roi hwb i’ch taith addysg.ÌýÌý
Cymorth Ariannol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA):ÌýOs ydych yn 16-18 oed ac yn astudio yng Nghymru, gallech gael £40 bob pythefnos drwy’r LCA. Gall hyn helpu gyda threuliau dyddiol megis cael bwyd neu gludiant ayyb. Cysylltwch â’r ÌýGwasanaethau DysgwyrÌýneu ewch i wefanÌýÌýÌýam ragor o fanylion.
- Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC): Os ydych chi’n 19 oed neu’n hÅ·n, mae’r GDLlC yn cynnig hyd at £1,500 y flwyddyn – perffaith ar gyfer gwerslyfrau neu’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs. Ewch i wefanÌýÌýam ragor o fanylion.
- Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) 2023/24: Mae FCF yma i helpu gyda chostau megis pasys bws, gofal plant a mwy.Ìý
- Cyllid ReAct: Os yw bywyd yn taflu heriau annisgwyl atoch megis diswyddiad, gall Cyllid ReAct ddarparu hyd at £2,500 ar gyfer hyfforddiant swydd.Ìý
- Ymddiriedolaeth Goffa David Davies: Os oes gan eich teulu gysylltiad â gweithwyr glo De Cymru, mae’r ymddiriedolaeth hon yn cynnig cymorth o hyd at £300.ÌýÌý
- Y Gronfa Cymorth Dewisol yng Nghymru (DAF): Y DAF yw eich rhaff achub yn ystod argyfyngau, gan gynnig cymorth cyflym pan fydd ei angen arnoch fwyaf.Ìý
- Dyfarniad Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog: Oes angen cymorth gyda chludiant neu offer arnoch? Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn eich cornel.ÌýÌý
Addysg Uwch Llawn Amser
- Benthyciadau ffioedd dysgu: Os ydych chi’n fyfyriwr Addysg Uwch am y tro cyntaf sy’n byw yng Nghymru, byddwch y gyffrous oherwydd y gallwch fenthyg hyd at £9250 i dalu am eich ffioedd dysgu.Ìý
- Cymorth cynhaliaeth: Gallwch gael cymorth gyda chostau byw sy’n seiliedig ar incwm eich teulu.ÌýOs ydych wedi ymgymryd â chyrsiau Addysg Uwch o’r blaen, gallai hyn effeithio ar eich cymhwysedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i ac i’r adran Rheolau Astudio Blaenorol.Ìý
- Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA): Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, efallai byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol. Mae’r grantiau hyn yma i helpu tuag at y costau ychwanegol angenrheidiol a allai fod gennych o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd. Llenwch y ffurflen DSA1 ar i ddechrau.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, gwrandewch ar yr hyn sydd gan ein dysgwyr presennol i’w ddweud am ein hopsiynau cyllid.ÌýÌý
Dywedodd Sara Crockett, dysgwr Mynediad i AU: “Dewisais wneud y cwrs Mynediad oherwydd rydw i eisiau ymgeisio ar gyfer gradd gweithio gyda Phlant a Theuluoedd. Gwnaeth y ffaith bod y cwrs yn rhad ac am ddim wir fy ngwthio i gymryd y naid a chofrestru.” Ìý
Dywedodd Thomas Morton, ein dysgwr Gradd Sylfaen Gemau a Chelf: “Penderfynais astudio Celf a Dylunio Gemau yn Ůӟó oherwydd ei fod yn rhatach o lawer na phrifysgolion eraill.” Ìý
Addysg Rhan Amser
- Benthyciad ffioedd: Gall unrhyw un yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd heb brawf modd o hyd at £2,625. I fod yn gymwys, bydd angen i chi fod yn astudio ar ddwyster o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai angen i fyfyriwr rhan-amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn. Mae astudio newydd ddod yn fwy fforddiadwy!Ìý
- Cymorth Cynhaliaeth (Costau byw): Yn seiliedig ar faint o oriau yr ydych yn astudio ac incwm eich cartref, gallech dderbyn hyd at £5,111.25.Ìý
- Cymorth i ddibynyddion: neu oedolion neu blant sy’n ddibynnol yn ariannol, gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu Rhieni (PLA) am gymorth ychwanegol.Ìý
Yn Ůӟó, rydym yma i sicrhau nad yw eich pryderon ariannol yn rhwystro rhag cyrraedd eich nodau academaidd. I gael cymorth pellach, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau CwsmeriaidÌýdrwy e-bost yn hello@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333777.ÌýÌý
Hefyd, gallwch ymweld â gwefan am fanylion am gymhwysedd a rhagor o wybodaeth.ÌýÌý