24 Hydref 2022
Fel coleg, rydym yn falch o gefnogi’r gwaith o symud Cymru ymlaen at ddod yn genedl fwy cynhwysol. Rydym yn sefyll yn erbyn hiliaeth gyda dull dim goddefgarwch, drwy ymuno â channoedd o sefydliadau yng Nghymru a llofnodi .
Rydym wedi hyrwyddo derbyniad a chynhwysiant ers peth amser o fewn ein cymuned, yn hyrwyddo’r buddion o fod â phoblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a staff. Felly, rydym mewn sefyllfa dda i lywio dyfodol ein cymdeithas, drwy addysgu pobl o bob oed am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dyma pam ein bod yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae pawb – myfyrwyr a staff – yn gallu bod yn nhw eu hunain, a theimlo’n ddiogel, ac wedi’u gwerthfawrogi a’u cynnwys; yn adlewyrchu gweledigaeth Race Council Cymru o genedl heb hiliaeth.
Yn unol â dyhead Llywodraeth Cymru am Gymru wrth-hiliaeth erbyn 2030, rydym bellach yn sefyll mewn undod â 1500 o wystlwyr eraill i wrthod hiliaeth o bob math. Er mwyn hyrwyddo dim goddefgarwch i hiliaeth yn y gweithle a’r ystafell ddosbarth, rydym yn rhoi’r ymrwymiad hwn ar waith bob dydd, drwy:
Rydym eisoes yn cymryd camau cadarnhaol i ddod yn goleg mwy cynhwysol, ac i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymysg staff a myfyrwyr. Drwy gyflwyno Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant pwrpasol, rydym yn cymryd camau pwysig er mwyn ysgogi newid. Mae rhai o’n mentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant allweddol yn cynnwys:
Fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon fis Hydref, rydym hefyd wedi gwahodd siaradwr gwadd, Nelly Adam o , i gyflwyno sgwrs i fyfyrwyr. Bydd Nelly’n trafod camau y gallwn eu cymryd er mwyn symud ymlaen wrth i ni ymgorffori gwrth-hiliaeth yn y coleg, yn ogystal â thynnu sylw at enghreifftiau o’r hyn allwn ni ei wneud fel unigolion i ysgogi newid gwirioneddol er mwyn cyflawni cymdeithas sy’n fwy gwrth-hiliol.
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith parhaus tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ewch i www.coleggwent.ac.uk/amrywiaeth a dysgwch fwy am ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru yn .