Mae ystod o gyrsiau ar gael sy鈥檔 addas i fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd a gallu addysgiadol
Fe wnawn eich cynorthwyo i ddysgu rheoli eich arian eich hun, coginio eich bwyd eich hun, cynllunio eich gyrfa eich hun a byw bywyd annibynnol yn eich cymuned.
Ynghyd 芒 dysgu sgiliau ymarferol, byddwn yn eich helpu i gynyddu eich hunanhyder i鈥檆h cynorthwyo i fyw bywyd gweithgar. Byddwch yn astudio cymysgedd o sgiliau galwedigaethol a chreadigol fel celf a chrefft, coginio, garddio a TG, ynghyd 芒 pharhau i wella eich llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill.
Byddwch hefyd yn mynd ar deithiau ac ymweliadau i leoliadau megis amwynderau, amgueddfeydd ac atyniadau twristiaeth lleol ynghyd 芒 chyfranogi mewn gweithgareddau codi arian a menter.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol gan ystyrir anghenion bob dysgwr ar sail unigol; byddwn yn asesu eich anghenion unigol i sicrhau eich bod yn cofrestru ar y cwrs iawn i chi.
Byddwch yn cael y cyfle i fynychu rhaglen drosglwyddo lle gallwch gwrdd 芒鈥檙 tiwtoriaid, mynychu rhai gwersi a dod i adnabod y coleg cyn i chi ddechrau.
Teithiau Rithwir 360掳 Sgiliau Byw鈥檔 Annibynnol
Ddim yn si诺r os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr