16 Medi 2021
Yr wythnos hon, gwnaethom lansio ein ‘Addewid Partneriaeth’ ysbrydoledig, sydd wedi’i anelu at gryfhau ein cysylltiadau diwydiant ac ymgysylltu â chyflogwyr lleol. Mae’r addewid wedi’i ddylunio i helpu i gwrdd â blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol; cefnogi deilliannau myfyrwyr a’n heconomi leol; a’ch arfogi gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus yn eich gyrfa.
Mae Covid-19 wedi cael effaith anferthol ar ein dysgwyr a busnesau lleol yn yr ardal leol, ond wrth i ni symud trwy’r pandemig, bydd y coleg yn chwarae rôl ganolog yn y broses o adfer. Rydym yn cydnabod efallai y bydd Covid-19 yn newid y ffordd rydym yn gweithio yn ogystal â gofynion sgiliau nawr, ac yn y dyfodol, felly rydym wedi lansio ‘Addewid Partneriaeth Cyflogwyr’ i helpu i gefnogi dysgwyr unigol a busnesau’r rhanbarth ar yr un pryd.
Bydd yr Addewid Partneriaeth Cyflogwyr yn gosod cyflogwyr wrth galon ysbrydoli, cyfathrebu a darparu gwybodaeth ar eich cyfer yn gyson, arddangos llwybrau gyrfa a chyfleoedd datblygu i’ch cyffroi am y byd gwaith. Yn y cyfamser, bydd cyflogwyr yn cydweithio gyda ni i helpu i siapio darpariaeth y cwricwlwm ar gyfer gweithlu’r dyfodol hefyd, fel y gallwch fod yn barod am waith pan fyddwch yn gadael y coleg.
Bydd yr Addewid yn cefnogi cyflogwyr yn rhanbarth de Cymru a Gwent i weithio’n agosach gyda ni fel coleg Addysg Bellach, cefnogi busnesau i gydweithredu gydag addysg i’ch paratoi gyda phopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol. Eglurodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr ŮŸ; “y weledigaeth yw y bydd ein Haddewid Partneriaeth Cyflogwyr yn cryfhau’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wybod pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt, pa sgiliau sydd eu hangen arnynt a sut i ymgysylltu’n llwyddiannus gyda chyflogwyr. Bydd hefyd yn galluogi busnesau i adeiladu perthnasau agosach gyda’n coleg, cefnogi datblygiad cwricwlwm, ac yn helpu i gwrdd â gofynion sgiliau eu gweithlu yn y dyfodol. Mae hyn yn allweddol i lwyddiant ein hardal a dyfodol ein cenhedlaeth nesaf.
Mynychodd nifer o gyflogwyr o ledled rhanbarth Gwent y digwyddiad lansio ar ddydd Iau 16 Medi, a chofrestru i gefnogi cychwyn yr Addewid Partneriaeth Cyflogwyr. Roedd y rhain yn cynnwys cyflogwyr lleol adnabyddus fel Admiral, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Gwesty a Sba Bryn Meadows, Celtic Manor Resort, Continental Teves UK Ltd, Nexperia Casnewydd, Pro Steel Engineering Ltd, 104 Regiment, Royal Atillery, St Modwen Homes a Thales. Rydym hefyd yn awyddus i ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach, gan greu rhwydwaith o bartneriaethau addewid ar draws ystod o sectorau.
Admiral yw un o’r cwmnïau sydd wedi ymrwymo i’r Addewid, gan ddweud: “Mae gan Admiral berthynas gref gyda ŮŸ ac rydym yn mwynhau cydweithio, rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. Mae’n wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn datblygu ac yn gwella eu doniau a’u sgiliau i gynorthwyo eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddatblygu ymgysylltiad myfyrwyr a chyflogwyr yn y tymor byr a’r tymor hir.”
Bydd yr Addewid Partneriaeth yn sefyll o fewn ein Tîm Ymgysylltiad Cyflogwyr, gan ddarparu mynediad at gefnogaeth a chyngor diduedd ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau adeiladu perthnasau a sefydlu cysylltiadau gyda’r coleg. Yn y cyfamser, bydd cyflogwyr yn cydweithio gyda ni i helpu i siapio darpariaeth y cwricwlwm ar gyfer gweithlu’r dyfodol hefyd, fel y gallwch fod yn barod am waith pan fyddwch yn gadael y coleg. Mater allweddol ar gyfer y gymuned fusnes yw’r bwlch rhwng ymwybyddiaeth pobl ifanc o fyd gwaith ac anghenion yr economi leol. Fodd bynnag, bydd yr Addewid yn rhoi’r llwyfan i gyflogwyr arddangos y cyfleoedd a’r llwybrau gyrfa gwych sydd ar gael yn lleol i chi, gan agor byd o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ar ôl gadael y coleg.
Gall cyflogwyr, busnesau neu randdeiliaid sydd â diddordeb yn yr Addewid Partneriaeth Cyflogwyr gysylltu â Abigail Bassie, Cydlynydd Ymgysylltiad Cyflogwyr, trwy e-bostio abigail.bassie@coleggwent.ac.uk neu fynd i’r tudalennau Addewid Partneriaeth ar ein gwefan i ddysgu mwy.