Lle bynnag y'ch bod wedi cyrraedd yn eich bywyd, mae ein cyrsiau llwybr at radd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cyflawni eu potensial.
Mae gradd prifysgol yn gyraeddadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol.
Gyda chyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, gallwch ddewis o amrywiaeth o lwybrau i’ch arwain chi at eich cwrs gradd dewisol gan eich rhoi chi ar ben ffordd i lwyddo a sicrhau eich swydd ddelfrydol.
Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i astudio a’r technegau gwahanol y byddwch eu hangen i fod yn fyfyriwr llwyddiannus. Mae cynnwys y cwrs wedi ei ddylunio i sicrhau eich bod chi’n gymwys i astudio yn y brifysgol.
Mae sawl un yn bryderus wrth gychwyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch, yn enwedig os nad ydynt wedi bod mewn dosbarth ers peth amser. Ond peidiwch â phoeni; ni fyddwn yn holi cwestiynau ar bethau nad ydych yn gyfarwydd â nhw.
Rydym ni’n gwybod bod gennych chi, fel oedolyn, gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaeth, boed hynny’n ymwneud â magu plant, gofalu am eich teulu, neu ennill arian i dalu’r biliau. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o ymrwymiadau eraill, felly maen nhw’n garedig, yn gefnogol ac yn hyblyg. Efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch helpu gyda chostau astudio hyd yn oed.
Er bydd rhai agweddau o’r cwrs yn heriol, prif bwrpas cwrs Mynediad i Addysg Uwch ydi’ch helpu chi i fod yn llwyddiannus. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo chi i ddatblygu popeth y byddwch ei angen ar gyfer y brifysgol, heb unrhyw ragdybiaethau am eich profiad.
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Cyrsiau Mynediad Llawn Amser
11 cwrs ar gael
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch - Dyniaethol a Wyddor Cymdeithas Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch - Dyniaethol a Wyddor Cymdeithas Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Mynediad i AU - Meddygaeth Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Mynediad i Addysg Uwch – Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Biowyddoniaeth) Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Iechyd) Lefel 3
Mynediad at Addysg Uwch
Agored Cymru Dychwelyd i Ddysgu – Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Roeddwn i eisiau datblygu fy astudiaethau er mwyn gallu mynychu’r brifysgol i fod yn barafeddyg. Mae’r Cwrs Mynediad yn crynhoi dwy flynedd o gwrs Lefel A i gyfnod o flwyddyn, fel cwrs carlam. Rydych chi’n dysgu llawer am amrywiaeth eang o fodiwlau, gan ennill profiad a’r wybodaeth i ddatblygu’ch astudiaethau a gwella’ch hun.
Grace Long
Mynediad i Nyrsio, Meddygaeth a Gofal Iechyd
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr