Ydych chi’n frwdfrydig am geir ac eisiau gweithio o fewn y diwydiant cerbydau modur, neu chwaraeon moduro?
Gyda dros 38 miliwn o gerbydau yn y DU, mae’r sector modurol yn ddiwydiant cyflym i weithio ynddo. Rydym yn dibynnu ar geir i’n cludo o A i B, rydym hefyd yn dibynnu ar dechnegwyr cerbydau i drwsio pethau pan fyddant yn mynd o chwith. Felly, gallai cwrs modurol yn Ůӟó fod yn ddechrau taith gyffrous i chi
Cynnal a Chadw ac Atgywerio Cerbydau
Mae ein cyrsiau yn rhoi hyfforddiant ymarferol i chi mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau. Byddwch yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o systemau cerbydau, diagnosteg, a thechnegau atgyweirio a gwybodaeth am y diwydiant.
Rydym yn falch o fod yn ddarparwr hyfforddiant modurol gorau yn Ne Cymru, gyda chanolfan Achredu Technegydd Modurol (ATA). Gan ddefnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf, cewch gyfle i weithio ar amrywiaeth o gerbydau. Mae’r rhain yn cynnwys diesel, petrol, hybrid, cerbydau trydan, beiciau modur a’n car rasio Ůӟó ein hunain.
Atgyweirio Damweiniau / Cyrff Cerbyd
Eisiau rhoi hwb i yrfa werth chweil mewn atgyweirio damweiniau cerbydau? Mae ein Lefel 1 Atgyweirio Damweiniau Cerbyd yn cynnig sylfaen gadarn mewn paent ac atgyweirio corff ceir. Byddwch yn cael y cyfle i ddefnyddio ein bwth chwistrellu ceir arbenigol, sef yr unig un o’i fath yng Nghymru, yn ogystal â’n gweithdai atgyweirio corff a pheirianneg.
Ar ôl gorffen y cwrs Lefel 1, gallwch symud ymlaen i’n cwrs Lefel 2 lle gallwch arbenigo mewn naill ai paent neu atgyweirio corff.
Chwaraeon Modur
Ydych chi’n angerddol am gyflymder, manwl gywirdeb, a gwthio terfynau perfformiad? Mae ein cwrs chwaraeon modur yw eich tocyn i droi’r angerdd hwnnw yn yrfa wefreiddiol. Gall ein harbenigedd a’n hoffer eich helpu i wireddu’ch breuddwyd o weithio gyda thimau rasio proffesiynol, dylunio cerbydau perfformiad uchel, neu feistroli peirianneg chwaraeon modur.
Byddwch yn dysgu gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant gyda blynyddoedd o brofiad mewn chwaraeon modur. O hanfodion dynameg cerbydau i egwyddorion peirianneg uwch, mae’r cwrs yn ymdrin â phob agwedd ar chwaraeon modur.
Ar ôl gorffen eich cwrs, gallwch ymuno â’r gweithlu neu ddewis arbenigo gyda mwy o hyfforddiant. Felly, dewch i ymuno â ni i roi hwb i’ch gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur!
P’un ai ceir clasurol, beiciau modur neu Formula 1 sy’n eich cyffroi, mae llawer o opsiynau o safbwynt gyrfaoedd lle cewch weithio gyda cherbydau modur, gan gynnwys:
- Peiriannydd modurol
- Rheolwr
- Mecanydd ceir
- Ffitiwr
- Technegydd
- Paentiwr Cerbydau
- Atgyweiriwr Cyrff Cerbydau
- Peiriannydd Chwaraeon Moduro
- Peiriannydd Rasys
17 cwrs ar gael
City & Guilds Diploma mewn Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Trwsio Difrod Damweiniau Modur (Corff a Phaent) Lefel 1
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau Lefel 2
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau Lefel 2
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 1
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 1
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau Lefel Mynediad 3
Moduro
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau Lefel Mynediad 3
Moduro
IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur Lefel 2
Moduro
IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3
Moduro
IMI Diploma Estynedig mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Moduro
BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3
Peirianneg
BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3
Peirianneg
Dydw i erioed wedi gweithio ar geir o’r blaen, felly roeddwn i’n nerfus yn dod i’r coleg. Ond byddwn yn argymell Ůӟó i unrhyw un sydd eisiau gwneud peirianneg fodurol gan fy mod wedi dysgu cymaint mewn blwyddyn. Mae’r cyfleusterau yma o’r un safon ag y byddech chi’n ei gael yn y rhan fwyaf o garejys, gyda llawer o geir i ymarfer arnynt.
Courtney Williams
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Lefel 3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr